Mathew 2
Ymweliad y gwŷr doeth
1Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem yn Jwdea, yn y cyfnod pan oedd Herod yn frenin. Ar ôl hynny, daeth gwŷr doeth o wledydd y dwyrain i Jerwsalem 2i ofyn, “Ble mae’r un sydd newydd gael ei eni yn frenin yr Iddewon? Gwelon ni ei seren yn codi, a dŷn ni yma i dalu teyrnged iddo.”
Notes for verses 1–21 entry
Text notes
Matthew 2:1 gwŷr doeth: Dynion oedd yn astudio’r sêr. View in passage
3Pan glywodd y Brenin Herod hyn roedd wedi cynhyrfu’n lân. Roedd cynnwrf yn Jerwsalem hefyd. 4Felly galwodd Herod y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig i’w gyfarfod. Gofynnodd iddyn nhw, “Ble mae’r Meseia i fod i gael ei eni?” 5“Yn Bethlehem Jwdea,” medden nhw. “Dyna ysgrifennodd y proffwyd:
6‘Bethlehem, yn nhir Jwda –
Nid rhyw bentref dibwys yn Jwda wyt ti;
achos ohonot ti daw un i deyrnasu,
un fydd yn fugail i arwain fy mhobl Israel.’”
Notes for verse 61 entry
Cross-references
Matthew 2:6 – Micah 5:2
7Ar ôl cael gwybod hyn, dyma Herod yn galw’r gwŷr doeth i gyfarfod preifat. Cafodd wybod ganddyn nhw pryd yn union oedd y seren wedi ymddangos. 8Yna dwedodd, “Ewch i Bethlehem i chwilio am y plentyn. A gadewch i mi wybod pan ddewch o hyd iddo, er mwyn i mi gael mynd i dalu teyrnged iddo hefyd.”
9Ar ôl gwrando beth oedd gan y brenin i’w ddweud, i ffwrdd â nhw. Dyma’r seren yn mynd o’u blaen, nes iddi aros uwchben yr union fan lle roedd y plentyn. 10Roedden nhw wrth eu bodd! 11Pan aethon nhw i mewn i’r tŷ, dyna lle roedd y plentyn gyda’i fam, Mair, a dyma nhw’n disgyn ar eu gliniau o’i flaen a’i addoli. Yna dyma nhw’n agor eu paciau a rhoi anrhegion gwerthfawr iddo – aur a thus a myrr 12Rhybuddiodd Duw nhw mewn breuddwyd i beidio mynd yn ôl at Herod, felly dyma’r gwŷr doeth yn teithio yn ôl i’w gwlad eu hunain ar hyd ffordd wahanol.
Notes for verses 9–121 entry
Text notes
Matthew 2:11 thus a myrr: Powdr costus oedd yn arogli’n hyfryd wrth gael ei losgi oedd thus. Powdr costus arall oedd yn cael ei ddefnyddio i wneud persawr oedd myrr. View in passage
Dianc i’r Aifft
13Ar ôl iddyn nhw fynd, cafodd Joseff freuddwyd arall. Gwelodd angel Duw yn dweud wrtho, “Rhaid i chi ddianc ar unwaith! Dos â’r plentyn a’i fam i’r Aifft, ac aros yno nes i mi ddweud ei bod yn saff i chi ddod yn ôl. Mae Herod yn ceisio dod o hyd i’r plentyn er mwyn ei ladd.”
14Felly cododd Joseff ganol nos a gadael am yr Aifft gyda’r plentyn a’i fam. 15Buon nhw yn yr Aifft nes oedd Herod wedi marw. Felly daeth beth ddwedodd yr Arglwydd drwy’r proffwyd yn wir: “Galwais fy mab allan o’r Aifft.”
Notes for verses 14–151 entry
Cross-references
Matthew 2:15 – Hosea 11:1
16Aeth Herod yn wyllt gynddeiriog pan sylweddolodd fod y gwŷr doeth wedi’i dwyllo. Anfonodd filwyr i Bethlehem a’r cylch i ladd pob bachgen bach dan ddwyflwydd oed – hynny ar sail beth oedd y gwŷr doeth wedi’i ddweud wrtho am y dyddiad y daeth y seren i’r golwg. 17A dyna sut daeth geiriau y proffwyd Jeremeia yn wir:
18“Mae cri i’w chlywed yn Rama,
sŵn wylo chwerw a galaru mawr –
Rachel yn crio am ei phlant.
Mae’n gwrthod cael ei chysuro,
am eu bod nhw wedi mynd.”
Notes for verse 181 entry
Cross-references
Matthew 2:18 – Jeremiah 31:15
Mynd i fyw i Nasareth
19Pan fuodd Herod farw, cafodd Joseff freuddwyd arall yn yr Aifft. Gwelodd angel yr Arglwydd 20yn dweud wrtho, “Dos â’r plentyn a’i fam yn ôl i wlad Israel. Mae’r bobl oedd am ei ladd wedi marw.”
21Felly dyma nhw’n mynd yn ôl i wlad Israel. 22Ond pan glywodd Joseff mai Archelaus, mab Herod, oedd llywodraethwr newydd Jwdea, roedd ganddo ofn mynd yno. Cafodd ei rybuddio mewn breuddwyd eto, a throdd i gyfeiriad Galilea, 23a mynd i fyw i dref Nasareth. Felly daeth yr hyn ddwedodd y proffwydi am y Meseia yn wir unwaith eto: “Bydd yn cael ei alw yn Nasaread.”
Notes for verses 21–232 entries
Text notes
Matthew 2:23 Bydd yn cael ei alw yn Nasaread: Does neb yn gwybod pwy oedd y proffwyd ddwedodd hyn. View in passage
Cross-references
Matthew 2:23 – Mark 1:24 ; Luke 2:39 ; John 1:45