Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Job 7

Job yn cwyno fod bywyd yn galed

1Pam mae bywyd dyn ar y ddaear mor galed?

Mae ei ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog –

2fel caethwas yn dyheu am gysgod,

neu was cyflog yn disgwyl am ei dâl.

3Mis ar ôl mis o fyw dibwrpas,

a nosweithiau diddiwedd o dristwch.

4Pan dw i’n gorwedd i lawr, dw i’n meddwl,

‘Pryd dw i’n mynd i fedru codi?’

Mae’r nos yn llusgo’n araf,

a dw i’n troi a throsi nes iddi wawrio.

5Mae briwiau a chrachod dros fy nghorff i gyd;

mae’r croen wedi cracio ac yn casglu.

6Mae dyddiau fy mywyd wedi hedfan fel gwennol gwehydd,

ac yn dod i ben mewn anobaith.

7O Dduw, cofia mai anadl ydy fy mywyd!

Wna i ddim profi pleser byth eto.

8Fydd y llygaid sy’n edrych arna i’n fy ngweld i ddim mwy;

bydda i wedi diflannu mewn chwinciad.

9Fel cwmwl yn chwalu ac yn diflannu,

dydy’r un sy’n mynd i’r bedd byth yn dod yn ôl i fyny;

10fydd e byth yn mynd adre eto;

a fydd y lle roedd yn byw ddim yn ei gofio.

11Felly, dw i ddim am gadw’n dawel!

Dw i’n mynd i rannu fy ngwewyr meddwl;

dw i’n teimlo’n chwerw, a dw i’n mynd i gwyno.

12Ai’r môr ydw i, neu anghenfil y dyfroedd,

i ti orfod fy nghadw yn gaeth?

13Pan dw i’n meddwl, ‘Bydd mynd i’r gwely’n gysur,

a gorffwys yn gwneud i mi deimlo’n well,’

14ti’n fy nychryn â breuddwydion,

ac yn codi braw â hunllefau.

15Byddai’n well gen i gael fy stranglo;

mae marwolaeth yn well na bodolaeth.

16Dw i wedi cael llond bol,

does gen i ddim eisiau byw ddim mwy.

Gad lonydd i mi, mae fy nyddiau’n mynd heibio fel mwg.

Notes for verses 9–161 entry

Text notes

  • Job 7:12 môr … anghenfil y dyfroedd Mae “anghenfil y dyfroedd” yn cyfieithu’r gair Hebraeg Tannin, oedd yn anghenfil tebyg i Lefiathan (3:8), Rahab (9:13), a Behemoth (40:15). Yn ôl 38:8-11, mae Duw yn cadw’r môr yn gaeth drwy osod ffiniau iddo. View in passage

17Beth ydy person dynol, i ti boeni amdano,

a rhoi cymaint o sylw iddo?

18Ti’n ei archwilio bob bore,

ac yn ei brofi bob munud.

19Wyt ti byth yn mynd i edrych i ffwrdd?

Rho gyfle i mi lyncu fy mhoeryn!

20Os dw i wedi pechu, beth dw i wedi’i wneud i ti,

ti Wyliwr pobl?

Pam dewis fi yn darged?

Ydw i wedi troi’n gymaint o faich i ti?

21Pam wnei di ddim maddau i mi am droseddu,

a chael gwared â’m pechod?

Achos bydda i’n gorwedd yn farw cyn pen dim;

byddi’n edrych amdana i, ond bydda i wedi mynd.”