Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Job 11

Ymateb Soffar: “Ti’n haeddu gwaeth!”

1A dyma Soffar o Naamâ yn ymateb:

2“Mae’n rhaid ateb y malu awyr diddiwedd yma!

Ydy siarad di-baid yn gwneud rhywun yn iawn?

3Wyt ti’n meddwl y bydd dy barablu di’n gwneud i ddynion dewi?

Oes neb yn mynd i dy geryddu di am dy siarad gwawdlyd?

4Ti’n dweud, ‘Mae beth dw i’n gredu yn iawn,

a dw i’n lân yn dy olwg di, O Dduw.’

5O na fyddai Duw yn dweud rhywbeth,

yn dy ateb di drosto’i hun,

6ac yn dangos i ti beth ydy doethineb go iawn!

Mae dwy ochr i bob stori!

Byddet ti’n gweld fod Duw yn dy gosbi lai nag wyt ti’n ei haeddu!

7Wyt ti’n meddwl dy fod yn deall hanfod Duw?

Wyt ti wedi darganfod ffiniau i allu’r Un sy’n rheoli popeth?

8Mae’n uwch na’r nefoedd – beth alli di ei wneud?

Mae’n ddyfnach nag Annwn – beth wyt ti’n ei wybod?

9Mae’n fwy na’r ddaear

ac yn lletach na’r môr.

10Os ydy Duw’n dod heibio ac arestio rhywun,

a mynd ag e i’r llys, pwy sy’n gallu ei rwystro?

11Achos mae e’n nabod y rhai sy’n twyllo;

pan mae’n gweld drygioni, mae’n delio ag e.

12Ond mae mor amhosib i ddyn dwl droi’n ddoeth

ag ydy hi i asyn gwyllt gael ei eni’n ddof!

Notes for verses 7–121 entry

Text notes

  • Job 11:8 Annwn Hebraeg, Sheol, sef “y byd tanddaearol lle mae’r meirw yn mynd”. View in passage

13Os gwnei di droi at Dduw,

ac estyn dy ddwylo ato mewn gweddi –

14troi cefn ar y drwg rwyt ti wedi’i wneud,

a pheidio rhoi lle i anghyfiawnder –

15yna byddi’n dal dy ben yn uchel, heb gywilydd,

ac yn gallu sefyll yn gadarn, heb ofn.

16Byddi’n anghofio dy holl drybini –

bydd fel dŵr wedi mynd dan y bont.

17Bydd bywyd yn brafiach na chanol dydd,

a’r adegau mwyaf tywyll yn olau fel y bore!

18Byddi’n teimlo’n saff, am fod gen ti obaith;

yn edrych o dy gwmpas ac yn gorffwys yn ddiogel.

19Byddi’n gorwedd i lawr, heb angen bod ofn;

a bydd llawer yn ceisio ennill dy ffafr.

20Ond fydd pobl ddrwg yn gweld dim o hyn.

Does dim dianc iddyn nhw!

Eu hunig obaith fydd cael marw.”