Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jeremeia 47

Neges am drefi Philistia

1Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y Philistiaid, cyn i’r Pharo ymosod ar Gasa. 2Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“Edrychwch! Mae’r gelynion yn codi yn y gogledd fel afon ar fin gorlifo.

Byddan nhw’n dod fel llifogydd i orchuddio’r tir.

Byddan nhw’n dinistrio’r wlad a phopeth ynddi,

y trefi a phawb sy’n byw ynddyn nhw.

Bydd pobl yn gweiddi mewn dychryn,

a phopeth byw yn griddfan mewn poen.

3Bydd sŵn y ceffylau’n carlamu,

y cerbydau’n clecian, a’r olwynion yn rymblan.

Bydd rhieni’n ffoi am eu bywydau

heb feddwl troi’n ôl i geisio achub eu plant

am fod arnyn nhw gymaint o ofn.

Notes for verses 2–31 entry

Cross-references

4Mae’r diwrnod wedi dod i’r Philistiaid gael eu dinistrio,

a’r cynghreiriaid sydd ar ôl yn Tyrus a Sidon.

Ydw, dw i’r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio’r Philistiaid,

y bobl ddaeth drosodd o ynys Creta.

5Bydd pobl Gasa yn siafio’u pennau mewn galar,

a phobl Ashcelon yn cael eu taro’n fud.

Am faint ydych chi sydd ar ôl ar y gwastatir

yn mynd i ddal ati i dorri eich hunain â chyllyll?”

Notes for verses 4–51 entry

Text notes

  • Jeremiah 47:4 Creta Hebraeg, “Cafftor”, enw arall ar Creta, o ble daeth hynafiaid y Philistiaid – gw. Deuteronomium 2:23; Amos 9:7. View in passage

Y bobl:

6“O! gleddyf yr ARGLWYDD,

am faint wyt ti’n mynd i ddal ati i ladd?

Dos yn ôl i’r wain!

Aros yno, a gorffwys!”

Jeremeia:

7“Ond sut mae’n gallu gorffwys

pan mae’r ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo?

Fe sydd wedi dweud wrtho am ymosod

ar dref Ashcelon a phobl yr arfordir.”