information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jeremeia 4

Galwad i droi’n ôl

1“Dim ond i ti droi yn ôl, o Israel,” meddai’r ARGLWYDD

“Ie, troi yn ôl!

Cael gwared â’r eilun-dduwiau ffiaidd yna o’m golwg i

a stopio crwydro o hyn ymlaen;

2dweud y gwir, a bod yn onest wrth dyngu llw,

‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw!’

Wedyn bydd y cenhedloedd am iddo’u bendithio nhw,

a byddan nhw’n ymffrostio ynddo.”

3Ie, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi, bobl Jwda a Jerwsalem:

“Rhaid i chi drin y tir caled,

a pheidio hau had da yng nghanol drain;

4rhoi eich hunain yn llwyr i’r ARGLWYDD,

newid eich agwedd a chael gwared â phob rhwystr.

Os na wnewch chi, bydda i’n ddig.

Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd,

o achos yr holl ddrwg dych chi wedi’i wneud.”

Notes for verses 3–42 entries

Text notes

  • Jeremiah 4:4 Rhoi … rhwystr. Mae’r Hebraeg yma yn defnyddio’r darlun o enwaedu’r galon (gw. Deuteronomium 10:16; 30:6). View in passage

Cross-references

Y gelyn o’r gogledd yn bygwth Jwda

Yr ARGLWYDD:

5“Cyhoeddwch hyn yn Jwda,

a dweud wrth bawb yn Jerwsalem:

‘Chwythwch y corn hwrdd i rybuddio pobl drwy’r wlad i gyd.’

Gwaeddwch yn uchel,

‘Dewch, rhaid dianc i’r trefi caerog!’

6Codwch arwydd yn dweud, ‘I Seion!’

Ffowch i le saff! Peidiwch sefyllian!

Dw i ar fin dod â dinistr o gyfeiriad y gogledd –

trychineb ofnadwy!

7Mae llew wedi dod allan o’i ffau!

Mae’r un sy’n dinistrio cenhedloedd ar ei ffordd.

Mae’n dod i ddifetha’r wlad,

a gwneud ei threfi’n adfeilion lle bydd neb yn byw.

8Felly gwisgwch sachliain, a galaru ac udo:

‘Mae’r ARGLWYDD yn dal wedi digio’n lân hefo ni.’”

Notes for verses 5–81 entry

Text notes

9“Y diwrnod hwnnw,” meddai’r ARGLWYDD,

“bydd y brenin a’i swyddogion wedi colli pob hyder.

Bydd yr offeiriaid yn syfrdan a’r proffwydi’n methu dweud gair.”

10Fy ymateb i oedd, “O! Feistr, ARGLWYDD, mae’n rhaid dy fod ti wedi twyllo’r bobl yma’n llwyr, a Jerwsalem hefyd! Roeddet ti wedi addo heddwch i Jerwsalem, ond mae cleddyf yn cyffwrdd ein gyddfau ni!”

11Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn dweud wrth y bobl yma ac wrth Jerwsalem, “Bydd gwynt poeth o fryniau’r anialwch yn chwythu ar fy mhobl druan. Nid rhyw wynt ysgafn i nithio’r had a chwythu’r us i ffwrdd fydd e. 12Na, bydd yn wynt llawer rhy gryf i hynny! Dw i fy hun yn mynd i’w barnu nhw.”

Y gelyn o gwmpas Jerwsalem

13Edrychwch! Mae’r gelyn yn dod fel cymylau’n casglu.

Mae sŵn ei gerbydau fel sŵn corwynt,

a’i geffylau yn gyflymach nag eryrod.

“Gwae ni, mae hi ar ben arnon ni!” meddai’r bobl.

14O, Jerwsalem, golcha’r drwg o dy galon

i ti gael dy achub.

Am faint wyt ti’n mynd i ddal gafael

yn dy syniadau dinistriol?

15Mae negeswyr yn dod i gyhoeddi dinistr

o dref Dan ac o fryniau Effraim.

16Cyhoeddwch i’r gwledydd o’i chwmpas, “Maen nhw yma!”

a dwedwch wrth Jerwsalem,

“Mae’r rhai sy’n ymosod ar ddinasoedd wedi dod o wlad bell,

ac yn bloeddio, ‘I’r gad!’ yn erbyn trefi Jwda.”

17Maen nhw’n cau amdani o bob cyfeiriad,

fel gwylwyr yn gofalu am gae.

“Ydy, mae hi wedi gwrthryfela yn fy erbyn i,”

meddai’r ARGLWYDD.

Notes for verses 15–171 entry

Text notes

  • Jeremiah 4:15 Dan … Effraim Roedd bryniau Effraim i’r gogledd o Jerwsalem, a Dan yn bellach i’r gogledd eto. Byddai byddin y gelyn yn dod o gyfeiriad y gogledd. View in passage

18Ti wedi dod â hyn arnat dy hun,

achos y ffordd rwyt wedi byw a’r pethau rwyt wedi’u gwneud.

Bydd dy gosb yn brofiad chwerw!

Bydd fel cleddyf yn treiddio i’r byw!

Jeremeia’n torri ei galon dros ei bobl

Jeremeia:

19O’r poen dw i’n ei deimlo!

Mae fel gwayw yn fy mol,

ac mae fy nghalon i’n pwmpio’n wyllt.

Alla i ddim cadw’n dawel

wrth glywed y corn hwrdd yn seinio

a’r milwyr yn gweiddi “I’r gad!”

Notes for verse 191 entry

Text notes

20Mae un dinistr yn dod ar ôl y llall,

nes bod y wlad i gyd wedi’i difetha.

Yn sydyn mae pob pabell wedi’i dinistrio,

a’u llenni wedi’u rhwygo mewn chwinciad.

21Am faint mae’n rhaid edrych ar faneri’r gelyn?

Am faint fydd raid i’r rhyfela fynd ymlaen?

Yr ARGLWYDD:

22“Mae fy mhobl yn ffyliaid.

Dŷn nhw ddim yn fy nabod i go iawn.

Maen nhw fel plant heb ddim sens.

Dŷn nhw’n deall dim byd!

Maen nhw’n hen lawiau ar wneud drwg,

ond ddim yn gwybod sut i wneud beth sy’n dda.”

Gweledigaeth Jeremeia o’r dinistr i ddod

Jeremeia:

23Edrychais ar y ddaear, ac roedd yn anrhefn gwag.

Edrychais i’r awyr, a doedd dim golau!

24Edrychais ar y mynyddoedd, ac roedden nhw’n crynu!

Roedd y bryniau i gyd yn gwegian.

25Edrychais eto – doedd dim pobl yn unman,

ac roedd yr adar i gyd wedi hedfan i ffwrdd.

26Edrychais, ac roedd y tir amaeth wedi troi’n anialwch,

a’r trefi i gyd yn adfeilion.

Yr ARGLWYDD oedd wedi achosi’r cwbl,

am ei fod wedi digio’n lân hefo ni.

Notes for verses 23–261 entry

Cross-references

27Ie, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“Bydd y tir i gyd yn destun sioc

ond fydda i ddim yn ei ddinistrio’n llwyr.

28Bydd y ddaear yn galaru,

a’r awyr wedi tywyllu.

Dw i wedi dweud yn glir beth dw i am ei wneud,

a dw i ddim yn bwriadu newid fy meddwl.”

29Mae sŵn y marchogion a’r bwasaethwyr yn dod,

ac mae pawb yn ffoi o’r trefi.

Maen nhw’n cuddio yn y llwyni, ac yn dringo’r clogwyni.

Mae’r trefi’n wag – does neb ar ôl ynddyn nhw!

30A thithau’r ddinas sy’n mynd i gael dy ddinistrio:

Beth wyt ti’n wneud yn dy ddillad gorau?

Pam wyt ti’n addurno dy hun hefo dy dlysau?

Pam wyt ti’n rhoi colur ar dy lygaid?

Does dim pwynt i ti wisgo colur.

Mae dy ‘gariadon’ wedi dy wrthod;

maen nhw eisiau dy ladd di!

Notes for verse 301 entry

Text notes

  • Jeremiah 4:30 A thithau … ddinistrio cyfeiriad at Jerwsalem. View in passage

31A dweud y gwir, dw i wedi clywed sŵn crio,

sŵn gwraig ifanc mewn poen wrth gael ei babi cyntaf,

sŵn Seion yn anadlu’n drwm, ac yn pledio am help:

“Mae ar ben arna i!

Mae’r llofruddion yma wedi cael y gorau arna i.”