Jeremeia 24
Ffigys da a ffigys drwg
1Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi cymryd Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, yn gaeth i Babilon. Cymerodd y swyddogion i gyd hefyd, a’r seiri coed a’r gweithwyr metel. A dyma’r ARGLWYDD yn rhoi gweledigaeth i mi. Gwelais ddwy fasged yn llawn ffigys wedi’u gosod o flaen teml yr ARGLWYDD. 2Roedd y ffigys yn un fasged yn rhai da iawn, fel ffigys wedi aeddfedu’n gynnar. Ond roedd y ffigys yn y fasged arall wedi mynd yn ddrwg, a ddim yn ffit i’w bwyta. 3Dyma’r ARGLWYDD yn gofyn i mi, “Beth wyt ti’n weld, Jeremeia?” A dyma fi’n ateb, “Ffigys. Mae’r rhai da yn edrych yn hyfryd, ond mae’r lleill wedi mynd yn rhy ddrwg i’w bwyta.”
Notes for verses 1–32 entries
Text notes
Jeremiah 24:1 Jehoiachin Hebraeg, Jechoneia, oedd yn enw arall ar Jehoiachin. Roedd yn frenin am dri mis yn 598 CC cyn cael ei gymryd yn gaeth i Babilon. View in passage
Cross-references
Jeremiah 24:1 – 2 Kings 24:14–17
4Yna dyma fi’n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD: 5“Dyma dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae’r ffigys da yn cynrychioli’r bobl sydd wedi’u cymryd yn gaeth i wlad y Babiloniaid. 6Dw i wedi’u hanfon nhw yno er eu lles eu hunain, a dw i’n mynd i ddod â nhw’n ôl i’r wlad yma. Bydda i’n eu hadeiladu nhw, dim eu bwrw nhw i lawr. Bydda i’n eu plannu nhw yn y tir, dim yn eu tynnu fel chwyn. 7Bydda i’n rhoi’r awydd ynddyn nhw i gydnabod mai fi ydy’r ARGLWYDD. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw. Byddan nhw’n troi’n ôl ata i go iawn.’
8“Ond,” meddai’r ARGLWYDD, “mae’r ffigys drwg yn cynrychioli Sedeceia brenin Jwda a’i swyddogion, a’r bobl hynny sydd wedi’u gadael ar ôl yn Jerwsalem neu sydd wedi mynd i fyw i’r Aifft. 9Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd eraill i gyd. Byddan nhw’n jôc. Bydda i’n gwneud esiampl ohonyn nhw. Byddan nhw’n destun sbort, ac yn esiampl o bobl wedi’u melltithio. Dyna sut fydd hi arnyn nhw ble bynnag wna i eu gyrru nhw. 10Bydda i’n anfon rhyfel, newyn a haint i’w taro nhw nes byddan nhw wedi cael eu dileu’n llwyr o’r wlad rois i iddyn nhw a’u hynafiaid.”
Notes for verses 8–102 entries
Text notes
Jeremiah 24:8 Sedeceia yn frenin o 598 i 586 CC. View in passage
Cross-references
Jeremiah 24:8 – Jeremiah 42:9–17