information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Jeremeia 19

Y jwg oedd wedi torri

1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos i brynu jwg gan y crochenydd. Wedyn, dos ag arweinwyr y bobl a’r offeiriaid hynaf gyda ti 2i ddyffryn Ben-hinnom sydd tu allan i Giât y Sbwriel. Yno, dywed wrthyn nhw beth dw i’n ddweud wrthot ti. 3Dywed, ‘Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, frenhinoedd Jwda a phobl Jerwsalem. Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i’n mynd i ddod â dinistr ofnadwy i’r lle yma. Bydd pawb fydd yn clywed am y peth yn gegagored. 4Mae’r bobl yma wedi troi cefn arna i, a gwneud y lle yma fel lle estron. Maen nhw wedi llosgi arogldarth i dduwiau eraill – duwiau nad oedden nhw na’u hynafiaid na brenhinoedd Jwda yn gwybod dim amdanyn nhw! Ac maen nhw wedi tywallt gwaed plant diniwed yma! 5Maen nhw wedi adeiladu allorau paganaidd, ac wedi llosgi eu plant yn aberth i Baal. Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud hynny. Fyddai’r fath beth byth yn croesi fy meddwl i!

Notes for verses 1–51 entry

Text notes

  • Jeremiah 19:2 Giât y Sbwriel Hebraeg, “giât y darnau o lestri” neu “giât y llestri wedi malu” (cf. Nehemeia 2:13; 3:13-14; 12:31). View in passage

6“‘“Felly mae’r amser yn dod,” meddai’r ARGLWYDD, “pan fydd neb yn galw’r lle yn Toffet neu ddyffryn Ben-hinnom. Dyffryn y Lladdfa fydd enw’r lle. 7Bydda i’n drysu cynlluniau pobl Jwda a Jerwsalem. Byddan nhw’n cael eu lladd gan eu gelynion yn y rhyfel. Bydd adar ac anifeiliaid gwyllt yn bwyta eu cyrff nhw. 8Bydd y ddinas yma’n cael ei dinistrio’n llwyr. Bydd pawb sy’n pasio heibio wedi dychryn am eu bywydau, ac yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld y dinistr. 9Bydda i’n gwneud iddyn nhw fwyta’u meibion a’u merched. Byddan nhw’n bwyta cyrff pobl am fod y sefyllfa wedi mynd mor ddrwg, a’r gelynion yn gwarchae arnyn nhw ac yn rhoi’r fath bwysau arnyn nhw.”’

Notes for verses 6–94 entries

Text notes

  • Jeremiah 19:7 drysu Hebraeg, “gwagio”. (Mae’r gair Hebraeg yn dod o’r un gwreiddyn â’r gair am ‘jwg’ yn adnod 1. Mae’r Hebraeg yn chwarae ar eiriau yma). View in passage

  • Jeremiah 19:9 gwarchae Pan oedd byddin yn ymosod ar ddinas roedd yn amgylchynu’r ddinas a’i thorri i ffwrdd fel bod neb yn gallu mynd i mewn nac allan. View in passage

Cross-references

  • Jeremiah 19:6 – Jeremiah 7:31–32 ; 2 Kings 23:10

  • Jeremiah 19:9 – Deuteronomy 28:53 ,Deuteronomy 28:55 ,Deuteronomy 28:57 (gw. 2 Kings 6:28–29 a Lamentations 4:10 )

10“Wedyn dw i eisiau i ti falu’r jwg yn deilchion o flaen y dynion fydd wedi mynd hefo ti, 11yna dweud wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud: ‘Dw i’n mynd i ddryllio’r wlad yma a’r ddinas, yn union fel cafodd y jwg yma ei dorri’n deilchion. Does dim gobaith ei drwsio! Bydd cyrff yn cael eu claddu yma yn Toffet nes bydd dim lle ar ôl! 12A bydd hi’r un fath ar y ddinas yma a’i phobl,’ meddai’r ARGLWYDD. ‘Bydd hi fel Toffet yma! 13Am fod pobl wedi aberthu i’r sêr, a thywallt offrwm o ddiod i dduwiau eraill ar doeau’r tai a thoeau palasau brenhinoedd Jwda, bydd Jerwsalem hefyd wedi’i llygru gan gyrff yr un fath â Toffet.’”

Jeremeia’n cyhoeddi dinistr

14Ar ôl dod yn ôl o Toffet, lle roedd yr ARGLWYDD wedi’i anfon i broffwydo, dyma Jeremeia’n mynd i deml yr ARGLWYDD a sefyll yn yr iard ac annerch y bobl yno. 15“Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Yn fuan iawn dw i’n mynd i ddod â dinistr ar y ddinas yma a’r pentrefi sydd o’i chwmpas, yn union fel dwedais i. Mae’r bobl wedi bod mor benstiff, a gwrthod gwrando arna i.’”