Eseia 4
1Bryd hynny,
bydd saith o ferched yn gafael mewn un dyn,
ac yn dweud, “Gad i ni dy briodi di –
Gwnawn fwyta ein bwyd ein hunain,
a gwisgo’n dillad ein hunain.
Ond cymer ein cywilydd ni i ffwrdd!”
Notes for verse 11 entry
Text notes
Isaiah 4:1 cymer ein cywilydd ni i ffwrdd Os oedd gwraig heb ŵr a phlant, roedd yn achos cywilydd mawr. View in passage
Bydd yr ARGLWYDD yn bendithio’i bobl
2Bryd hynny,
bydd blaguryn yr ARGLWYDD
yn rhoi harddwch ac ysblander,
a bydd ffrwyth y tir
yn cynnig urddas a mawredd
i’r ychydig rai fydd ar ôl yn Israel.
3Bydd y rhai sydd ar ôl yn Seion
ac wedi’u gadael yn Jerwsalem
yn cael eu galw’n sanctaidd –
pawb yn Jerwsalem sydd i fod i gael byw.
4Pan fydd yr ARGLWYDD wedi glanhau
budreddi merched Seion,
bydd yn cael gwared ag euogrwydd Jerwsalem –
drwy farnu a charthu.
5Bydd yr ARGLWYDD yn dod â chwmwl yn y dydd
a thân yn llosgi yn y nos,
a’u gosod uwchben y cysegr a’r man cyfarfod ar Fynydd Seion.
Yn wir, bydd ei ysblander yn hongian fel canopi dros bopeth.
6Bydd fel caban i gysgodi rhag y gwres yn ystod y dydd,
ac yn lloches i gysgodi rhag y storm o law.
Notes for verses 5–61 entry
Cross-references
Isaiah 4:5 – Exodus 13:21 ; Exodus 24:16 ; Exodus 40:36–38