information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 30

Peidio disgwyl help o’r Aifft

1“Gwae chi, blant ystyfnig,” meddai’r ARGLWYDD –

“yn gwneud cynlluniau sy’n groes i be dw i eisiau,

a ffurfio cynghreiriau wnes i ddim eu hysbrydoli!

A’r canlyniad? –

Pentyrru un pechod ar y llall!

2Rhuthro i lawr i’r Aifft heb ofyn i mi,

a gofyn i’r Pharo eu hamddiffyn

a’u cuddio dan gysgod yr Aifft.

3Ond bydd cael y Pharo i amddiffyn yn codi cywilydd,

a bydd cuddio dan gysgod yr Aifft yn siom mawr,

4er bod ganddo swyddogion yn Soan

a llysgenhadon mor bell â Chanes.

5Cânt eu cywilyddio’n llwyr,

am fod yr Aifft yn dda i ddim iddyn nhw –

dim help o gwbl!

Fyddan nhw’n elwa dim,

ond yn profi siom a chywilydd.”

Notes for verses 3–51 entry

Text notes

  • Isaiah 30:4 Soan … Chanes Roedd Soan yng ngogledd-ddwyrain yr Aifft; roedd Chanes i lawr yn y de. View in passage

6Neges am ‘Anifeiliaid y Negef’:

Yn nhir trafferthion a chaledi,

gwlad y llewes a’r llew cry,

y neidr a’r wiber wibiog,

maen nhw’n cario’u cyfoeth ar gefn asynnod,

a’u trysorau ar gefn camelod,

ar ran pobl sy’n dda i ddim.

7Mae’r Aifft yn ddiwerth! Dŷn nhw ddim help o gwbl!

Felly, dw i’n ei galw hi’n “Yr un falch sy’n fud.”

Pobl anufudd

8Tyrd nawr, ysgrifenna hyn ar lechen a’i gofnodi mewn sgrôl,

i fod yn dystiolaeth barhaol i’r dyfodol.

9Achos maen nhw’n bobl anufudd ac yn blant sy’n twyllo –

plant sy’n gwrthod gwrando

ar beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddysgu.

10Pobl sy’n dweud wrth y rhai sy’n cael gweledigaethau,

“Peidiwch â cheisio gweledigaeth,”

ac wrth y proffwydi, “Peidiwch proffwydo

a dweud wrthon ni beth sy’n iawn.

Dwedwch bethau neis – er eu bod yn gelwydd!

11Trowch o’r ffordd! Ewch oddi ar y llwybr iawn!

Stopiwch ein hatgoffa ni am Un Sanctaidd Israel!”

12Felly, dyma mae Un Sanctaidd Israel yn ei ddweud:

Am eich bod wedi gwrthod y neges yma,

a dewis rhoi’ch ffydd mewn gormeswr twyllodrus –

13bydd y bai yma fel wal uchel yn bochio,

ac yn sydyn, mewn chwinciad, mae’n syrthio.

14Bydd yn torri’n ddarnau,

fel jwg pridd yn cael ei falu’n deilchion –

bydd wedi darfod.

Fydd dim un darn yn ddigon o faint

i godi marwor o badell dân neu wagio dŵr o bwll.

15Dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel, yn ei ddweud:

“Os trowch yn ôl a trystio cewch eich achub;

wrth aros yn llonydd a chredu y cewch fuddugoliaeth.”

Ond dych chi ddim yn fodlon gwneud hynny.

16“Na,” meddech chi.

“Gadewch i ni ddianc ar gefn meirch!” –

a dyna wnewch chi.

“Gadewch i ni farchogaeth yn gyflym!” –

ond bydd y rhai sydd ar eich ôl yn gyflymach!

17Bydd un gelyn yn bygwth a mil yn dianc;

pump yn bygwth a phawb yn dianc.

Bydd cyn lleied ar ôl, byddan nhw fel

polyn fflag ar ben bryn,

neu faner ar ben mynydd.

Notes for verses 15–171 entry

Cross-references

Duw eisiau bendithio’i bobl

18Ond mae’r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi;

bydd yn siŵr o godi i faddau i chi.

Achos mae’r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn,

ac mae’r rhai sy’n disgwyl amdano yn cael bendith fawr!

19Wir i chi, bobl Seion – chi sy’n byw yn Jerwsalem – fyddwch chi ddim yn wylo wedyn. Bydd e’n garedig atoch chi pan fyddwch chi’n galw. Bydd e’n ateb yr eiliad mae’n eich clywed chi. 20Er bod y Meistr wedi rhoi helynt i chi’n fwyd, a dioddefaint yn ddŵr, fydd y Duw sy’n eich tywys ddim yn cuddio mwyach, byddwch yn ei weld yn eich arwain. 21Wrth wyro i’r dde neu droi i’r chwith, byddwch yn clywed llais y tu ôl i chi’n dweud: “Dyma’r ffordd; ewch y ffordd yma!” 22Byddwch yn ffieiddio’r delwau wedi’u gorchuddio ag arian, a’r delwau metel ag aur yn eu gorchuddio. Byddwch yn eu taflu i ffwrdd fel cadach misglwyf, ac yn dweud, “Budreddi!”

23Bydd e’n rhoi glaw i’r had rwyt wedi’i hau yn y pridd, a bydd y tir yn rhoi cnwd da, cyfoethog. Bydd digonedd o borfa i dy anifeiliaid bryd hynny, 24a bydd yr ychen a’r asynnod sy’n gweithio ar y tir yn cael eu bwydo gyda’r ebran gorau, wedi’i nithio â fforch a rhaw.

25Bydd nentydd a ffrydiau o ddŵr yn llifo ar bob mynydd a bryn uchel – ar ddiwrnod y lladdfa fawr pan fydd y tyrau amddiffynnol yn syrthio. 26Bydd y lleuad yn disgleirio fel yr haul, a bydd yr haul yn disgleirio saith gwaith cryfach nag arfer (fel golau saith diwrnod mewn un!) ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn rhwymo briwiau ei bobl, ac yn iacháu’r anafiadau gawson nhw pan darodd e nhw.

Cosbi Asyria

27Edrychwch! Mae’r ARGLWYDD ei hun

yn dod o bell, yn wyllt gynddeiriog,

yn corddi o’i fewn.

Mae’n siarad yn ddig, a’i eiriau fel tân yn difa.

28Mae ei dymer fel llifogydd gwyllt

yn cyrraedd at y gwddf.

Bydd yn ysgwyd y cenhedloedd

mewn gogr i’w dinistrio,

ac yn rhoi ffrwyn yng ngheg pobloedd

i’w harwain ar gyfeiliorn.

29Ond byddwch chi’n canu,

fel petai’n noson i ddathlu gŵyl.

Byddwch yn llawen ac yn dawnsio i gyfeiliant pib

wrth fynd i fynydd yr ARGLWYDD, Craig Israel.

30Bydd yr ARGLWYDD yn bloeddio’n uchel,

a bydd ei fraich gref yn dod i lawr

ac yn eu taro’n wyllt gynddeiriog,

fel fflamau tân yn difa,

neu gorwynt, storm a chenllysg.

31Bydd llais yr ARGLWYDD yn chwalu Asyria,

sef y wialen ddefnyddiodd i daro.

32Bydd yn eu waldio gyda’r pastwn ddewisodd

ac yn eu curo i gyfeiliant drymiau a thelynau,

pan fydd yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn.

33Mae’r goelcerth angladdol wedi’i pharatoi cyn hyn;

mae’n barod ar gyfer eu brenin.

Mae’r pwll tân yn ddwfn ac yn llydan,

ac mae digon o goed i’w tanio.

Bydd anadl yr ARGLWYDD

fel llif lafa yn dod i’w llosgi.