information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 27

Achub Israel

1Bryd hynny,

bydd yr ARGLWYDD

yn cosbi Lefiathan, y neidr wibiog,

gyda’i gleddyf llym, mawr a didostur –

Lefiathan, y neidr droellog;

a bydd yn lladd Rahab, anghenfil y môr.

Notes for verse 12 entries

Text notes

  • Isaiah 27:1 Lefiathan … môr Roedd y bwystfilod mytholegol yma yn cynrychioli grymoedd anhrefn, a’r cenhedloedd oedd yn gormesu Israel. View in passage

Cross-references

  • Isaiah 27:1 – Job 41:1 ; Psalms 74:14 ; Psalms 104:26

2Bryd hynny byddwch yn canu’r gân, “Y Winllan Hyfryd”:

3Fi, yr ARGLWYDD, sy’n gofalu amdani,

ac yn ei dyfrio hi bob amser.

Dw i’n ei gwylio hi nos a dydd,

rhag i rywun wneud niwed iddi.

4Dw i ddim yn ddig bellach:

petai rhywun yn rhoi drain a mieri i mi,

byddwn yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn,

ac yn eu llosgi nhw’n ulw.

5Ond os ydyn nhw am i mi eu hamddiffyn nhw,

rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi;

ie, rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi.

6Mae’r amser yn dod pan fydd Jacob yn bwrw gwreiddiau,

ac Israel yn tyfu ac yn blodeuo –

bydd y byd i gyd yn llawn o’i ffrwyth.

7Gafodd e ei daro fel yr un wnaeth ei daro fe?

Wnaeth e ddiodde lladdfa debyg i’r un wnaeth ei ladd e?

8Cafodd ei yrru i ffwrdd a’i gaethgludo i’w alw i gyfrif.

Cafodd ei chwythu i ffwrdd gan wynt cryf ar ddydd y storm.

9Felly, dyma sut mae gwneud iawn am fai Jacob,

a dyma fydd canlyniad symud ei bechod:

Bydd cerrig yr allor yn cael eu malu i gyd

fel petaen nhw’n garreg galch –

a pholion y dduwies Ashera a’r llestri dal arogldarth

wedi’u torri i gyd.

10Mae’r ddinas gaerog wedi’i gadael yn wag,

cartrefi gwag wedi’u gadael fel tir diffaith.

Mae lloi yn pori yno, yn gorwedd i lawr

ac yn bwyta popeth sydd ar y canghennau.

11Yna mae’r brigau’n sychu ac yn torri,

ac mae merched yn dod ac yn cynnau tân hefo nhw.

Pobl oedd ddim yn deall oedden nhw;

felly doedd Duw’n dangos dim trugaredd,

doedd eu Crëwr yn dangos dim caredigrwydd atyn nhw.

12Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn ysgwyd y goeden, o afon Ewffrates i Wadi’r Aifft; a byddwch chi, blant Israel, yn cael eich casglu bob yn un! 13Bryd hynny, bydd y corn hwrdd yn cael ei ganu; bydd y rhai oedd ar goll yng ngwlad Asyria, a’r rhai oedd wedi cael eu gyrru i wlad yr Aifft, yn dod i addoli’r ARGLWYDD ar y mynydd cysegredig, yn Jerwsalem.

Notes for verses 12–133 entries

Text notes

  • Isaiah 27:12 o afon Ewffrates i Wadi’r Aifft Dyma ffiniau traddodiadol y tir roedd Duw wedi ei addo i’w bobl. gw. Genesis 15:18; Exodus 23:31. View in passage

  • Isaiah 27:13 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. View in passage

  • Isaiah 27:13 mynydd cysegredig gw. 2:3. View in passage