information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 18

Duw yn cosbi Ethiopia

1Gwae wlad yr adenydd chwim

wrth afonydd dwyrain Affrica!

Mae’n anfon negeswyr dros y môr,

mewn cychod brwyn ar wyneb y dŵr.

2Ewch, negeswyr cyflym,

at genedl o bobl dal gyda chroen llyfn –

pobl sy’n cael eu hofni ym mhobman;

cenedl gref sy’n hoffi ymladd,

sydd â’i thir wedi’i rannu gan afonydd.

Notes for verses 1–22 entries

Text notes

  • Isaiah 18:1 dwyrain Affrica Hebraeg, Cwsh, sef yr ardal i’r de o’r Aifft, yn cynnwys rhannau o Swdan ac Ethiopia heddiw. View in passage

Cross-references

3“Gwrandwch, bawb drwy’r byd i gyd,

pawb sy’n byw ar y ddaear:

byddwch yn ei weld!

– fel baner ar ben y bryniau;

byddwch yn ei glywed!

– fel sŵn y corn hwrdd yn cael ei chwythu!”

Notes for verse 31 entry

Text notes

4Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i:

“Dw i’n mynd i aros yn llonydd ac edrych o’m lle –

fel tes yr haul yn tywynnu,

neu gwmwl gwlith yng ngwres y cynhaeaf.”

5Adeg y cynhaeaf grawn, pan mae’r blagur wedi mynd,

a’r grawnwin yn dechrau aeddfedu,

bydd yn torri’r brigau gyda chyllell,

ac yn tocio’r canghennau sy’n lledu.

6Bydd y cwbl yn cael ei adael

i’r eryrod ar y mynydd ac i’r anifeiliaid gwyllt.

Bydd yr adar yn byw drwy’r haf arnyn nhw,

a’r anifeiliaid gwyllt drwy’r gaeaf.

7Bryd hynny bydd pobl dal gyda chroen llyfn

yn dod â rhoddion i’r ARGLWYDD hollbwerus –

pobl sy’n cael eu hofni ym mhobman,

cenedl gref sy’n hoffi ymladd,

sydd â’i thir wedi’i rannu gan afonydd.

Dônt i’r lle mae enw’r ARGLWYDD hollbwerus arno:

i Fynydd Seion.