information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 16

1Anfon oen oddi wrth lywodraethwr y wlad,

o Sela yn yr anialwch i Fynydd Seion hardd:

2“Mae merched Moab wrth rydau Arnon,

fel adar wedi’u tarfu a’u gyrru o’r nyth.

3Rhowch gyngor! Gwnewch benderfyniad!

Rhowch gysgod i ni rhag y gelyn,

fel oerni’r nos rhwng gwres dau ddydd.

Cuddiwch ein ffoaduriaid!

Peidiwch bradychu’r rhai sy’n ffoi.

4Rhowch loches i ffoaduriaid Moab;

cuddiwch nhw rhag y gelyn sy’n dinistrio.”

Pan fydd yr un creulon wedi diflannu

a’r ysbeilio wedi dod i ben,

a’r gormeswyr wedi diflannu o’r tir,

5bydd brenin dibynadwy yn cael ei orseddu –

un o deulu Dafydd.

Bydd yn teyrnasu’n ffyddlon,

bydd yn frwd dros gyfiawnder

ac yn hybu tegwch.

6“Dŷn ni wedi clywed am falchder Moab –

mae ei phobl mor falch –

yn snobyddlyd, yn brolio ac mor haerllug,

ond mae ei brolio hi’n wag.”

7Felly, mae Moab yn udo;

mae pawb yn Moab yn udo!

Mae’r rhai a anafwyd yn griddfan

am deisennau ffrwyth melys Cir-chareseth.

8Mae’r ffrwyth ar gaeau teras Cheshbon

a gwinllannoedd Sibma wedi gwywo.

Mae’r rhai sy’n rheoli’r cenhedloedd

wedi torri eu gwinwydd gorau.

Roedden nhw’n cyrraedd hyd at Iaser,

ac yn ymestyn i’r anialwch;

roedd eu brigau wedi ymledu

ac yn cyrraedd at y môr.

Notes for verses 6–81 entry

Cross-references

9Felly dw i’n wylo gyda Iaser dros winwydd Sibma.

Gwlychaf di â’m dagrau, Cheshbon ac Elealê,

am fod y gweiddi llawen am ffrwythau aeddfed

dy gynhaeaf wedi dod i ben.

10Mae’r miri a’r hwyl wedi’i ysgubo i ffwrdd o’r gerddi.

Does dim canu na sŵn dathlu i’w glywed yn y gwinllannoedd.

Does neb yn sathru’r grawnwin i’r cafnau –

mae’r bwrlwm wedi tewi.

11Felly mae fy mol yn murmur dros Moab fel tannau telyn,

a’r cwbl sydd yno i dros Cir-chareseth.

12Pan mae pobl Moab yn mynd at yr allor leol,

ac yn gweddïo’n daer yn y cysegr,

fydd dim byd yn tycio.

13Dyna’r neges roddodd yr ARGLWYDD i Moab o’r blaen. 14Ond mae’r ARGLWYDD yn dweud nawr: mewn tair blynedd union bydd poblogaeth anferth Moab yn crebachu. Fydd dim hyd yn oed llond dwrn ar ôl – neb o bwys.

Notes for verses 13–141 entry

Text notes

  • Isaiah 16:14 tair blynedd union Hebraeg, “fel tair blynedd, fel blynyddoedd gweithiwr” h.y. yn cael eu cyfri’n fanwl gywir. View in passage