information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 1

1Gweledigaeth Eseia fab Amos.

1(Dyma welodd e am Jwda a Jerwsalem yn ystod y blynyddoedd pan oedd Wseia, Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd Jwda.)

Notes for verse 12 entries

Text notes

  • Isaiah 1:1 frenhinoedd Jwda Wseia (783–742 CC); Jotham (742–735 CC); Ahas (735–715 CC); Heseceia (715–687 CC). View in passage

Cross-references

  • Isaiah 1:1 – 2 Kings 15:1–7 ; 15:32–16:20; 18:1–20:21; 2 Cronicl 26:1–32:33

Gwlad euog

2Gwranda, nefoedd! Clyw, ddaear!

Mae’r ARGLWYDD yn dweud:

“Dw i wedi magu plant a gofalu amdanyn nhw –

ond maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i.

3Mae ych yn nabod ei berchennog

ac asyn yn gwybod lle mae cafn bwydo ei feistr:

ond dydy Israel ddim yn fy nabod i;

dydy fy mhobl i’n cymryd dim sylw!”

4O! druan ohonot ti’r wlad sy’n pechu!

Pobl sy’n llawn drygioni!

Nythaid o rai sy’n gwneud drwg!

Plant pwdr!

Maen nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD

a dirmygu Un Sanctaidd Israel;

maen nhw wedi pellhau oddi wrtho.

5Pam dych chi’n dal ati i wrthryfela?

Ydych chi eisiau cael eich curo eto?

Mae briwiau ar bob pen

a’r corff yn hollol wan.

6Does unman yn iach

o’r corun i’r sawdl:

dim ond clwyfau a chleisiau,

a briwiau agored –

heb eu gwella na’u rhwymo,

a heb olew i’w hesmwytho.

7Mae eich gwlad fel anialwch,

a’ch dinasoedd wedi’u llosgi’n ulw.

Mae dieithriaid yn bwyta eich cnydau

o flaen eich llygaid –

anialwch wedi’i ddinistrio gan estroniaid!

8Dim ond Seion hardd sydd ar ôl –

fel caban yng nghanol gwinllan,

neu gwt mewn gardd lysiau;

fel dinas yn cael ei gwarchae.

9Oni bai fod yr ARGLWYDD hollbwerus

wedi gadael i rai pobl fyw,

bydden ni wedi’n dinistrio fel Sodom,

neu wedi diflannu’n llwyr fel Gomorra.

Notes for verses 8–91 entry

Text notes

  • Isaiah 1:9 Sodom … Gomorra Dwy ddinas hynafol gafodd eu dinistrio gan Dduw am fod eu pobl mor ddrwg (gw. Genesis 19:1-29). View in passage

10Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD,

arweinwyr Sodom!

Gwrandwch ar beth mae Duw’n ei ddysgu i chi,

bobl Gomorra!

11“Beth ydy pwynt eich holl aberthau chi?”

meddai’r ARGLWYDD.

“Dw i wedi cael llond bol o hyrddod yn offrymau i’w llosgi,

o fraster anifeiliaid a gwaed teirw.

Dw i ddim eisiau’ch ŵyn a’ch bychod geifr chi.

12Dych chi’n ymddangos o’m blaen i –

ond pwy ofynnodd i chi ddod

i stompio drwy’r deml?

Notes for verses 10–121 entry

Cross-references

13Stopiwch ddod â’ch offrymau diystyr!

Mae’r arogldarth yn troi arna i!

Dych chi’n dathlu gŵyl y lleuad newydd a’r Sabothau,

ac yn cynnal cyfarfodydd eraill,

Ond alla i ddim diodde’r drygioni

sy’n mynd gyda’ch dathliadau crefyddol chi.

14Dw i’n casáu’r lleuadau newydd

a’ch gwyliau eraill chi.

Maen nhw’n faich arna i;

alla i mo’u diodde nhw.

15Pan fyddwch chi’n codi’ch dwylo i weddïo,

bydda i’n edrych i ffwrdd.

Gallwch chi weddïo faint fynnoch chi,

ond fydda i ddim yn gwrando.

Mae gwaed ar eich dwylo chi!

16Ymolchwch! Byddwch yn lân!

Ewch â’r pethau drwg dych chi’n eu gwneud

allan o’m golwg i!

Stopiwch wneud drwg;

17dysgwch wneud da.

Brwydrwch dros gyfiawnder,

o blaid y rhai sy’n cael eu gorthrymu.

Cefnogwch hawliau plant amddifad,

a dadlau dros achos y weddw.

18Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd,”

–meddai’r ARGLWYDD.

“Os ydy’ch pechodau chi’n goch llachar,

gallan nhw droi’n wyn fel yr eira;

os ydyn nhw’n goch tywyll,

gallan nhw fod yn wyn fel gwlân.

19Os dych chi’n fodlon gwrando a gwneud be dw i’n ddweud,

cewch fwyta cynnyrch da’r tir;

20ond os byddwch chi’n ystyfnig ac yn gwrthod gwrando,

byddwch chi’n cael eich difa â’r cleddyf,”

–mae’r ARGLWYDD wedi dweud.

Y ddinas ddrwg

21Ond o! Mae Seion wedi troi’n butain.

Roedd hi’n ddinas ffyddlon,

yn llawn o bobl yn gwneud beth oedd yn iawn.

Cyfiawnder oedd yn arfer byw ynddi –

ond bellach llofruddion.

22Mae dy arian wedi’i droi’n amhuredd;

mae dy win wedi’i gymysgu â dŵr!

23Mae dy arweinwyr wedi gwrthryfela,

ac yn ffrindiau i ladron;

maen nhw i gyd yn hoffi breib,

ac yn chwilio am wobr.

Wnân nhw ddim amddiffyn plentyn amddifad

na gwrando ar achos y weddw.

24Felly, dyma mae’r Meistr yn ei ddweud

(yr ARGLWYDD hollbwerus),

Arwr Israel –

“O! bydda i’n dangos fy llid i’r rhai sy’n fy erbyn!

Bydda i’n dial ar fy ngelynion!

25Bydda i’n ymosod arnat

ac yn symud dy amhuredd â thoddydd.

Bydda i’n cael gwared â’r slag i gyd!

26Bydda i’n rhoi barnwyr gonest i ti fel o’r blaen,

a chynghorwyr doeth, fel roedden nhw ers talwm.

Wedyn byddi di’n cael dy alw

‘Y Ddinas Gyfiawn’, ‘Tref Ffyddlon’.”

27Bydd Seion yn cael ei gollwng yn rhydd pan ddaw’r dyfarniad;

a’r rhai sy’n troi’n ôl yn cael cyfiawnder.

28Ond bydd y rhai sydd wedi gwrthryfela a phechu yn cael eu sathru;

bydd hi wedi darfod ar y rhai sydd wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD.

29Bydd gynnoch chi gywilydd o’r coed derw cysegredig

roeddech chi mor hoff ohonyn nhw.

Byddwch chi wedi drysu o achos

y gerddi paganaidd roeddech wedi’u dewis.

30Byddwch fel coeden dderwen

â’i dail wedi gwywo,

neu fel gardd sydd heb ddŵr.

31Bydd y rhai cryf fel fflwff,

a’u gwaith fel gwreichionen.

Bydd y ddau yn llosgi gyda’i gilydd,

a neb yn gallu diffodd y tân!

Notes for verses 29–311 entry

Text notes

  • Isaiah 1:29 gerddi paganaidd Roedd pobl yn credu fod cysegru gardd i dduw ffrwythlondeb yn sicrhau cnydau da. View in passage