Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Hebreaid 3

Iesu’n fwy na Moses

1Felly, frodyr a chwiorydd – chi sydd wedi’ch glanhau ac ar eich ffordd i’r nefoedd – meddyliwch am Iesu! Fe ydy’r negesydd oddi wrth Dduw a’r un dŷn ni’n ei dderbyn yn Archoffeiriad. 2Gwnaeth Iesu bopeth roedd Duw yn gofyn iddo’i wneud, yn union fel Moses, oedd “yn ffyddlon yn nheulu Duw.” 3Ond mae Iesu’n haeddu ei anrhydeddu fwy na Moses, yn union fel mae rhywun sy’n adeiladu tŷ yn haeddu ei ganmol fwy na’r tŷ ei hun! 4Mae pob tŷ wedi cael ei adeiladu gan rywun, ond yr un sydd wedi adeiladu popeth sy’n bod ydy Duw! 5Gwas “ffyddlon yn nheulu Duw” oedd Moses, ac roedd beth wnaeth e yn pwyntio ymlaen at beth fyddai Duw’n ei wneud yn y dyfodol. 6Ond mae’r Meseia yn Fab ffyddlon gydag awdurdod dros deulu Duw i gyd. A dŷn ni’n bobl sy’n perthyn i’r teulu hwnnw os wnawn ni ddal gafael yn yr hyder a’r gobaith dŷn ni’n ei frolio.

Notes for verses 1–61 entry

Cross-references

Rhybudd rhag peidio credu

7Felly, fel mae’r Ysbryd Glân yn dweud:

“Os clywch chi lais Duw heddiw, 8peidiwch bod yn ystyfnig

fel oeddech chi adeg y gwrthryfel,

yn rhoi Duw ar brawf yn yr anialwch.

9Roedd eich hynafiaid wedi profi fy amynedd

a chawson nhw weld y canlyniadau am bedwar deg mlynedd.

10Digiais gyda’r bobl hynny,

a dweud, ‘Maen nhw’n bobl hollol anwadal;

dŷn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’

11Felly digiais, a dweud ar lw,

‘Chân nhw byth fynd i’r lle sy’n saff i orffwys gyda mi.’”

Notes for verses 7–111 entry

Cross-references

12Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn anufudd ac yn troi cefn ar y Duw byw. 13Helpwch eich gilydd bob dydd, a gwnewch hynny tra mae hi’n ‘heddiw’. Peidiwch gadael i bechod eich twyllo a’ch gwneud yn ystyfnig. 14Os daliwn ein gafael i’r diwedd a dal i gredu fel ar y dechrau, cawn rannu’r cwbl sydd gan y Meseia. 15Fel dw i newydd ddweud:

“Os clywch chi lais Duw heddiw,

peidiwch bod yn ystyfnig

fel oeddech chi adeg y gwrthryfel.”

Notes for verse 151 entry

Cross-references

16A phwy oedd y rhai wnaeth wrthryfela er eu bod wedi clywed llais Duw? Onid y bobl wnaeth Moses eu harwain allan o’r Aifft? 17A gyda pwy roedd Duw’n ddig am 40 mlynedd? Onid gyda’r rhai oedd wedi pechu? – nhw syrthiodd yn farw yn yr anialwch! 18Ac am bwy ddwedodd Duw ar lw na chaen nhw byth fynd i’r lle sy’n saff i orffwys gydag e? – onid y bobl hynny oedd yn gwrthod ei ddilyn? 19Felly dŷn ni’n gweld eu bod nhw wedi methu cyrraedd yno am eu bod nhw ddim yn credu.

Notes for verses 16–191 entry

Cross-references

  • Hebrews 3:17 – Numbers 14:29 ,Numbers 14:32