Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Hebreaid 1

Y Mab yn bwysicach na’r angylion

1Yn y gorffennol pell roedd Duw wedi siarad gyda’n hynafiaid ni drwy’r proffwydi. Gwnaeth hyn bob yn dipyn ac mewn gwahanol ffyrdd. 2Ond bellach, yn y cyfnod olaf hwn, mae wedi siarad â ni drwy ei Fab. Mae Duw wedi dewis rhoi popeth sy’n bodoli yn eiddo iddo fe – yr un oedd gyda Duw yn gwneud y bydysawd. 3Mae holl ysblander Duw yn disgleirio ohono. Mae e’n dangos i ni’n berffaith sut un ydy Duw. Ei awdurdod pwerus e sy’n dal popeth yn y bydysawd gyda’i gilydd! Ar ôl iddo ei gwneud hi’n bosib i bobl gael eu glanhau o’u pechodau, cafodd eistedd yn y nefoedd, yn y sedd anrhydedd ar ochr dde y Duw Mawr ei hun. 4Roedd wedi’i wneud yn bwysicach na’r angylion. Roedd y teitl roddodd Duw iddo yn dangos ei fod yn bwysicach na nhw.

Notes for verses 1–41 entry

Cross-references

5Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed:

“Ti ydy fy Mab i;

heddiw des i’n dad i ti”?

Notes for verse 51 entry

Cross-references

Neu hyn:

“Bydda i’n dad iddo fe,

A bydd e’n fab i mi”?

Notes for verse 51 entry

Cross-references

  • Hebrews 1:5 – 2 Samuel 7:14 ; 1 Chronicles 17:13

6Ac wrth i Dduw ddod â’i fab hynaf yn ôl i’r byd nefol i’w anrhydeddu, mae’n dweud:

“Addolwch e, holl angylion Duw!”

Notes for verse 61 entry

Cross-references

  • Hebrews 1:6 – Deuteronomy 32:43 (LXX); Psalms 97:7

7Pan mae Duw’n sôn am angylion mae’n eu disgrifio fel:

“negeswyr sydd fel gwyntoedd,

a gweision sydd fel fflamau o dân.”

Notes for verse 71 entry

Cross-references

8Ond am y Mab mae Duw’n dweud hyn:

“Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth,

a byddi’n teyrnasu mewn ffordd gyfiawn.

9Ti’n caru beth sy’n iawn ac yn casáu drygioni;

felly mae Duw, ie dy Dduw di, wedi dy eneinio di,

a thywallt olew llawenydd arnat ti yn fwy na neb arall.”

Notes for verses 8–91 entry

Cross-references

  • Hebrews 1:9 – 1:8,9 Psalms 45:6 ,Psalms 45:7

10A hefyd,

“O Arglwydd, ti osododd y ddaear yn ei lle ar y dechrau cyntaf,

a gwaith dy ddwylo di ydy popeth yn yr awyr.

11Byddan nhw’n darfod, ond rwyt ti’n aros;

byddan nhw’n mynd yn hen fel dillad wedi’u gwisgo.

12Byddi’n eu rholio i fyny fel hen glogyn;

byddi’n eu newid nhw fel rhywun yn newid dillad.

Ond rwyt ti yn aros am byth –

dwyt ti byth yn mynd yn hen.”

Notes for verses 10–121 entry

Cross-references

13Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed?:

“Eistedd yma yn y sedd anrhydedd

nes i mi wneud i dy elynion blygu

fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”

Notes for verse 132 entries

Text notes

  • Hebrews 1:13 yn y sedd anrhydedd Groeg, “ar yr ochr dde i mi”. View in passage

Cross-references

14Dim ond gweision ydy’r angylion. Ysbrydion wedi’u hanfon i wasanaethu’r rhai fydd yn cael eu hachub!