Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Haggai 1

Cyflwyniad

1Ar ddiwrnod cynta’r chweched mis o ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius, dyma’r proffwyd Haggai yn rhoi’r neges yma gan yr ARGLWYDD i Serwbabel fab Shealtiel, llywodraethwr Jwda, a hefyd i Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad:

Notes for verse 12 entries

Text notes

  • Haggai 1:1 chweched mis … Dareius Roedd mis Elwl yn calendr Babilon yn cyfateb i chweched mis y calendr Hebreig, o tua canol Awst i ganol Medi. Mae’r dyddiad yma’n cyfateb i Awst 29, 520 CC yn ein calendr ni. Dareius Hystaspes, oedd yn teyrnasu ar Ymerodraeth Persia o 522 i 486 CC. View in passage

  • Haggai 1:1 Serwbabel fab Shealtiel Roedd Serwbabel yn ŵyr i Jehoiachin, brenin Jwda, gafodd ei gymryd yn gaeth i Babilon yn 597 CC (gw. 2 Brenhinoedd 24:15). View in passage

Duw yn gorchymyn ailadeiladu’r Deml

2“Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Mae’r bobl yma’n dweud, ‘Mae’n rhy fuan i ni ailadeiladu teml yr ARGLWYDD.’”

3Ond yna dyma’r proffwyd Haggai yn rhoi’r neges yma gan yr ARGLWYDD: 4“Ydy hi’n iawn eich bod chi’n byw yn eich tai crand, tra mae’r deml yma yn adfail? 5Felly dyma mae yr ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Meddyliwch am funud beth dych chi’n wneud!

6Dych chi wedi hau digon, ond bach iawn ydy’r cynhaeaf;

dych chi’n bwyta, ond byth yn cael eich llenwi;

dych chi’n yfed, ond heb gael eich bodloni;

dych chi’n gwisgo dillad, ond yn methu cadw’n gynnes;

mae fel petai’r cyflog mae pobl yn ei ennill

yn mynd i bwrs sydd â thwll ynddo!

7Ie, meddyliwch am funud beth dych chi’n wneud!’

–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.

8‘Ewch i’r bryniau a dod â coed yn ôl i adeiladu’r deml;

bydd hynny’n fy mhlesio, a bydd pobl yn fy mharchu,’

–meddai’r ARGLWYDD.

9‘Roeddech chi’n disgwyl cnydau da,

ond yn cael cnydau gwael.

Roeddech chi’n ei gasglu,

ond yna byddwn i’n ei chwythu i ffwrdd!’

–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.

‘Pam? – Am fod fy nhŷ i yn adfeilion, a chithau’n rhy brysur yn poeni amdanoch chi’ch hunain!

10Dyna pam mae’r awyr heb roi gwlith,

a’r tir wedi peidio tyfu cnydau.

11Fi sydd wedi anfon sychder drwy’r wlad –

ar y bryniau,

ar yr ŷd a’r grawnwin a’r olewydd

a phopeth arall sy’n tyfu o’r ddaear,

ar bobl ac anifeiliaid,

ac ar ffrwyth eich holl waith caled.’”

Y bobl yn ufuddhau

12Dyma Serwbabel fab Shealtiel, Jehoshwa fab Iehotsadac yr archoffeiriad, a phawb arall, yn gwneud beth roedd yr ARGLWYDD eu Duw yn ei ddweud, a gwrando ar neges Haggai, y proffwyd roedd e wedi’i anfon. Roedd y bobl yn parchu’r ARGLWYDD eto.

13Yna dyma Haggai, negesydd yr ARGLWYDD, yn rhoi neges arall gan Dduw i’r bobl, “‘Dw i gyda chi,’ meddai’r ARGLWYDD.”

14Dyma’r ARGLWYDD yn annog Serwbabel fab Shealtiel (llywodraethwr Jwda), Jehoshwa fab Iehotsadac (yr archoffeiriad), a phawb arall hefyd i weithredu: a dyma nhw’n bwrw iddi â’r gwaith o adeiladu teml eu Duw, yr ARGLWYDD hollbwerus. 15Dechreuodd y gwaith ar y pedwerydd ar hugain o’r chweched mis.

Notes for verses 14–151 entry

Text notes

  • Haggai 1:15 pedwerydd ar hugain … mis sef 23 diwrnod ar ôl i Haggai gyflwyno ei neges gyntaf – gw. Haggai 1:1. Mae’r dyddiad yma’n cyfateb i Medi 21, 520 CC yn ein calendr ni. View in passage