Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Esra 2

Rhestr o’r bobl ddaeth yn ôl

(Nehemeia 7:4-73)

1Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i’r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw’n arfer byw. 2Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Seraia, Reëlaia, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Rechwm a Baana.

Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl:

3Teulu Parosh: 2,172

4Teulu Sheffateia: 372

5Teulu Arach: 775

6Teulu Pachath-Moab (o deuluoedd Ieshŵa a Joab): 2,812

7Teulu Elam: 1,254

8Teulu Sattw: 945

9Teulu Saccai: 760

10Teulu Bani: 642

11Teulu Bebai: 623

12Teulu Asgad: 1,222

13Teulu Adonicam: 666

14Teulu Bigfai: 2,056

15Teulu Adin: 454

16Teulu Ater (sef disgynyddion Heseceia): 98

17Teulu Betsai: 323

18Teulu Iora: 112

19Teulu Chashŵm: 223

20Teulu Gibbar: 95

21Dynion Bethlehem: 123

22Dynion Netoffa: 56

23Dynion Anathoth: 128

24Dynion Asmafeth: 42

25Dynion Ciriath-iearîm, Ceffira a Beëroth: 743

26Dynion Rama a Geba: 621

27Dynion Michmas: 122

28Dynion Bethel ac Ai: 223

29Pobl Nebo: 52

30Pobl Magbish: 156

31Pobl yr Elam arall: 1,254

32Pobl Charîm: 320

33Pobl Lod, Hadid ac Ono: 725

34Pobl Jericho: 345

35Pobl Senaâ: 3,630

36Yr offeiriaid:

Teulu Idaïa (o linach Ieshŵa): 973

37Teulu Immer: 1,052

38Teulu Pashchwr: 1,247

39Teulu Charîm: 1,017

40Y Lefiaid:

Teulu Ieshŵa a Cadmiel (o deulu Hodafiâ): 74

41Y cantorion:

Teulu Asaff: 128

42Gofalwyr y giatiau:

Teuluoedd Shalwm, Ater, Talmon, Accwf, Chatita a Shobai: 139

43Gweision y deml:

Teulu Sicha

Teulu Chaswffa

Teulu Tabbaoth

44Teulu Ceros

Teulu Sïaha

Teulu Padon

45Teulu Lebana

Teulu Hagaba

Teulu Accwf

46Teulu Hagab

Teulu Shalmai

Teulu Chanan

47Teulu Gidel

Teulu Gachâr

Teulu Reaia

48Teulu Resin

Teulu Necoda

Teulu Gassam

49Teulu Wssa

Teulu Paseach

Teulu Besai

50Teulu Asna

Teulu Mewnîm

Teulu Neffwsîm

51Teulu Bacbwc

Teulu Chacwffa

Teulu Charchwr

52Teulu Batslwth

Teulu Mechida

Teulu Charsha

53Teulu Barcos

Teulu Sisera

Teulu Temach

54Teulu Netsïach

Teulu Chatiffa.

55Teuluoedd gweision Solomon:

Teulu Sotai

Teulu Hassoffereth

Teulu Perwda

56Teulu Jala

Teulu Darcon

Teulu Gidel

57Teulu Sheffateia

Teulu Chattil

Teulu Pochereth-hatsbaîm

Teulu Ami

58Cyfanswm gweision y deml a theuluoedd gweision Solomon: 392

59Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer hefyd (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a’u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol):

60Teulu Delaia, teulu Tobeia a theulu Necoda: 652

61Wedyn teuluoedd yr offeiriaid, sef teuluoedd Hafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw).

62Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o’u teuluoedd yn y rhestrau achau ac wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid. 63Dwedodd y llywodraethwr nad oedden nhw i gael bwyta’r bwyd oedd wedi’i gysegru nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio’r Wrim a’r Thwmim.

Notes for verses 62–632 entries

Text notes

  • Ezra 2:63 llywodraethwr Mae’r un teitl Persiaidd yn cael ei ddefnyddio am Nehemeia yn Nehemeia 8:9; 10:1 View in passage

Cross-references

64Cyfanswm y bobl aeth yn ôl oedd 42,360, 65(heb gyfri’r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw. Roedd yna 200 o gantorion – dynion a merched – gyda nhw hefyd). 66Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod, 67435 o gamelod a 6,720 o asynnod.

68Pan gyrhaeddon nhw deml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, dyma rhai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu’n hael tuag at ailadeiladu teml Dduw ar ei safle wreiddiol. 69Rhoddodd pob un gymaint ag y gallen nhw ei fforddio tuag at y gwaith: tua 500 cilogram o aur, 2,800 cilogram arian, a 100 o wisgoedd i’r offeiriaid.

Notes for verses 68–692 entries

Text notes

  • Ezra 2:69 500 cilogram o aur. Hebraeg, “61,000 drachma aur”. View in passage

  • Ezra 2:69 2,800 cilogram o arian. Hebraeg, “mina arian”. View in passage

70Felly dyma’r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau a gweision y deml i gyd yn setlo i lawr yn eu trefi eu hunain. Ac aeth gweddill pobl Israel yn ôl i fyw i’w trefi hwythau hefyd.