Eseciel 9
Lladd Addolwyr Eilunod
1Wedyn dyma fi’n clywed Duw yn gweiddi’n uchel, “Dewch yma, chi sy’n mynd i ddinistrio’r ddinas! Dewch gyda’ch arfau i wneud eich gwaith!”
2Gwelais chwe dyn yn dod o gyfeiriad y giât uchaf sy’n wynebu’r gogledd. Roedd gan bob un arf, sef pastwn, yn ei law. Roedd dyn arall gyda nhw, mewn gwisg o liain, ac roedd ganddo offer ysgrifennu wedi’i strapio am ei ganol. Dyma nhw’n dod i’r deml, a sefyll wrth ymyl yr allor bres.
3Dyma ysblander Duw Israel yn codi oddi ar y cerbyd a’r cerwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. A dyma’r ARGLWYDD yn galw ar y dyn mewn gwisg o liain oedd yn cario’r offer ysgrifennu, 4a dweud wrtho: “Dos o gwmpas dinas Jerwsalem, a rho farc ar dalcen pawb sy’n galaru’n drist am yr holl bethau ffiaidd sy’n digwydd yma.”
Notes for verses 3–41 entry
Text notes
Ezekiel 9:4 farc Hebraeg, taf – llythyren oedd yn cael ei hysgrifennu ar ffurf croes mewn hen lawysgrifen Hebraeg. View in passage
5Wedyn clywais e’n dweud wrth y lleill: “Ewch o gwmpas y ddinas ar ei ôl a lladd pawb sydd heb eu marcio. Does neb i ddianc! Byddwch yn hollol ddidrugaredd! 6Lladdwch nhw i gyd – yr hen a’r ifanc, gwragedd a phlant! Ond peidiwch cyffwrdd unrhyw un sydd â marc ar ei dalcen. Dechreuwch yma yn y deml.”
Felly dyma nhw’n dechrau gyda’r arweinwyr oedd yn sefyll o flaen y deml. 7“Gwnewch y deml yn lle sydd wedi’i lygru, gyda chyrff marw ar lawr ym mhobman! Wedyn ewch allan a lladd pobl drwy’r ddinas i gyd.”
8Pan aethon nhw allan i’r ddinas ces fy ngadael yn sefyll yno ar fy mhen fy hun. A dyma fi’n mynd ar fy wyneb ar lawr, a gweddïo’n uchel ar Dduw, “O, na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt ti’n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel drwy dywallt dy lid ar Jerwsalem fel yma?” 9A dyma fe’n ateb, “Mae pobl Israel a Jwda wedi pechu yn ofnadwy yn fy erbyn i. Mae cymaint o dywallt gwaed drwy’r wlad, ac anghyfiawnder yn y ddinas. Ac mae pobl yn dweud, ‘Mae’r ARGLWYDD wedi troi cefn ar y wlad. Dydy e ddim yn gweld beth bynnag!’ 10Felly, dw i ddim yn teimlo’n sori drostyn nhw o gwbl. Fydd yna ddim trugaredd! Dw i’n mynd i dalu’n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi’i wneud!”
Notes for verses 8–101 entry
Cross-references
Ezekiel 9:9 – gw. Psalms 94:5–7
11Wedyn, dyma’r dyn mewn gwisg o liain oedd yn cario offer ysgrifennu yn cyrraedd yn ôl, a dweud, “Dw i wedi gwneud beth ddwedaist ti.”