Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseciel 6

Mae hi ar ben ar Israel

1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: 2“Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu mynyddoedd Israel, a proffwydo yn eu herbyn nhw.

3“Dywed, ‘Fynyddoedd Israel, gwrandwch ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD! Dyma mae e’n ddweud wrth y mynyddoedd a’r bryniau, y ceunentydd a’r dyffrynnoedd: Dw i’n anfon byddin i ymosod arnoch chi, a dinistrio’ch allorau paganaidd lleol chi. 4Fydd yr allorau’n ddim byd ond rwbel, a’r llestri i losgi arogldarth wedi’u malu’n ddarnau. Bydd pobl yn syrthio’n farw o flaen eich eilunod da i ddim. 5Bydd cyrff meirw yn gorwedd o’u blaen, ac esgyrn pobl ym mhobman o gwmpas yr allorau. 6Fydd dim dianc! Bydd eich trefi’n cael eu dinistrio’n llwyr, a’r allorau paganaidd yn ddim byd ond rwbel. Bydd yr eilunod wedi’u malu a’u bwrw i lawr, a’r llestri arogldarth yn ddarnau. Fydd dim byd o’ch gwaith llaw chi ar ôl! 7Bydd cyrff marw ym mhobman! Byddwch chi’n gwybod wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.

Notes for verses 3–71 entry

Cross-references

8“‘Ond bydda i’n gadael i rai ohonoch chi ddianc. Bydd y rheiny’n ffoaduriaid wedi’u gyrru ar chwâl drwy’r gwledydd. 9A byddan nhw’n cofio amdana i yno! Byddan nhw’n sylweddoli sut roedden nhw’n torri fy nghalon i wrth fod mor anffyddlon a dilyn pa dduw bynnag oedd yn cymryd eu ffansi. Bydd ganddyn nhw gymaint o gywilydd am eu bod wedi cymryd rhan mewn defodau mor ffiaidd. 10Byddan nhw’n deall mai fi ydy’r ARGLWYDD, ac mai nid bygythiad gwag oedd y drychineb ddaeth arnyn nhw!’”

11Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:

“Dangos mor ddig wyt ti drwy ysgwyd dy ddwrn a stampio dy draed, a gweiddi, ‘Gwae!’ o achos yr holl bethau ffiaidd mae pobl Israel wedi’u gwneud. Byddan nhw’n cael eu lladd gan gleddyf y gelyn, newyn, neu haint.” 12Bydd pobl yn marw ym mhobman! Bydd y rhai sy’n bell i ffwrdd yn marw o afiechydon, y rhai sy’n agos yn cael eu lladd gan y gelyn, ac unrhyw un sydd ar ôl yn marw o newyn. Bydda i’n tywallt hynny o ddigofaint sydd gen i arnyn nhw! 13Bydd eu cyrff marw yn gorwedd ym mhobman, am eu bod nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i’w heilunod. Bydd cyrff o gwmpas yr eilunod a’r allorau paganaidd, ar bob bryn uchel a mynydd, a dan pob coeden ddeiliog. Byddan nhw’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD! 14Dw i’n mynd i’w taro nhw’n galed. Fydd eu tir nhw yn ddim byd ond anialwch diffaith, yr holl ffordd o’r diffeithwch yn y de i Ribla yn y gogledd. Byddan nhw’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD!

Notes for verses 11–142 entries

Text notes

  • Ezekiel 6:11 ysgwyd dy ddwrn Hebraeg, “curo dy ddwylo”, oedd yn arwydd eich bod wedi gwylltio. View in passage

  • Ezekiel 6:14 Ribla Hebraeg, Dibla. Roedd tref Ribla ar lan afon Orontes yn ardal Chamath, sef gogledd Libanus (2 Brenhinoedd 23:33). Roedd Chamath ar ffin ogleddol Israel (Eseciel 47:14). View in passage