Eseciel 4
Eseciel yn darlunio beth sy’n mynd i ddigwydd i Jwda a Jerwsalem
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud:
1“Ddyn, cymer fricsen fawr, ei gosod o dy flaen a thynnu llun map o ddinas Jerwsalem arni. 2Wedyn gwna fodel o fyddin yn gwarchae arni: waliau gwarchae, ramp, gwersylloedd milwyr ac offer fel hyrddod rhyfel o’i chwmpas. 3Yna cymer badell haearn, a’i gosod i fyny fel wal haearn rhyngot ti a’r ddinas. Wedyn gwylia hi, drwy’r amser, fel taset ti’n gwarchae arni. Mae beth fyddi di’n wneud yn rhybudd i bobl Israel.
Notes for verses 1–31 entry
Text notes
Ezekiel 4:2 gwarchae Pan oedd byddin yn ymosod ar ddinas roedd yn amgylchynu’r ddinas a’i thorri i ffwrdd fel bod neb yn gallu mynd i mewn nac allan. View in passage
4“Yna dw i eisiau i ti orwedd ar dy ochr chwith am dri chant naw deg diwrnod. Byddi’n dioddef wrth orfod cario baich pechod pobl Israel 5(diwrnod am bob blwyddyn maen nhw wedi pechu). Wedyn ar ôl i ti gario baich pechod pobl Israel, 6gorwedd ar dy ochr dde am bedwar deg diwrnod. Byddi’n cario baich pechod pobl Jwda (sef diwrnod am bob blwyddyn eto).
Notes for verses 4–61 entry
Text notes
Ezekiel 4:4 tri chant naw deg diwrnod Mae’n cynrychioli’r nifer o flynyddoedd ers i deml Solomon gael ei chodi. View in passage
7“Dal ati i wylio’r model o’r gwarchae ar Jerwsalem. Torcha dy lewys, a proffwyda yn erbyn y ddinas. 8Bydda i’n dy rwymo di gyda rhaffau, a byddi’n methu symud na throi drosodd nes bydd dyddiau’r gwarchae drosodd.
9“Wedyn cymer ŷd, haidd, ffa, ffacbys, miled a sbelt, a’u cadw mewn llestr gyda’i gilydd. Defnyddia’r cymysgedd i wneud bara i ti dy hun. Dyna fyddi di’n ei fwyta pan fyddi’n gorwedd ar dy ochr am dri chant naw deg diwrnod. 10Dim ond wyth owns y dydd fyddi di’n ei gael i’w fwyta, a hynny yr un amser bob dydd. 11Wedyn ychydig dros hanner litr o ddŵr i’w yfed – hwnnw eto i’w yfed yr un amser bob dydd. 12Gwna rywbeth fel bara haidd fflat ohono, a defnyddio carthion dynol wedi’u sychu yn danwydd i’w bobi o flaen pawb. 13Gwna hyn fel darlun symbolaidd o’r ffaith y bydd pobl Israel yn bwyta bwyd sy’n aflan ar ôl cael eu gyrru i ganol y gwledydd paganaidd.”
Notes for verses 9–131 entry
Text notes
Ezekiel 4:13 bwyd sy’n aflan Roedd carthion dynol i fod i gael eu claddu tu allan i’r gwersyll (gw. Deuteronomium 23:12-13), felly fyddai’r bara yma ddim yn cael ei ystyried yn iawn i’w fwyta. Ond pan does dim dewis, mae pobl yn fodlon bwyta unrhyw beth. View in passage
14“O, na! ARGLWYDD, Meistr, Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy’n ‘aflan’ o’r blaen – fel carcas anifail oedd wedi marw ohono’i hun, neu un gafodd ei ladd gan anifeiliaid gwyllt, neu unrhyw gig sy’n ‘aflan’.”
15Felly dyma’r ARGLWYDD yn ateb, “Iawn, cei di ddefnyddio tail gwartheg yn lle carthion dynol. Cei bobi dy fara ar hwnnw.” 16Yna aeth yn ei flaen i ddweud, “Yn fuan iawn fydd yna ddim bwyd yn Jerwsalem. Bydd pobl yn poeni am fod bwyd yn brin, ac yn anobeithio am fod y cyflenwad dŵr yn isel. 17Byddan nhw’n edrych mewn dychryn ar ei gilydd yn llwgu. Byddan nhw’n gwywo’n ddim o achos eu pechodau.”
Notes for verses 15–171 entry
Cross-references
Ezekiel 4:16 – Leviticus 26:26