Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseciel 31

Torri’r Goeden Gedrwydd

1Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta’r trydydd mis. A dyma fi’n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD: 2“Ddyn, dywed wrth y Pharo, brenin yr Aifft, a’i bobl i gyd:

Notes for verses 1–22 entries

Text notes

  • Ezekiel 31:1 diwrnod cyntaf y trydydd mis Mehefin 21, 587 CC mae’n debyg. View in passage

  • Ezekiel 31:2 Pharo Apries, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Hoffra, oedd yn frenin yr Aifft o 589 i 570 CC. View in passage

‘Oes rhywbeth sy’n cymharu â dy fawredd di?

3Roedd Asyria fel coeden gedrwydd yn Libanus,

a’i changhennau hardd fel cysgod y goedwig.

Roedd yn aruthrol dal, a’i brigau uchaf yn y cymylau.

4Y dŵr oedd yn gwneud iddi dyfu,

a’r ffynhonnau dwfn yn ei gwneud yn dal.

Roedd nentydd yn llifo o’i chwmpas;

a sianeli dŵr yn dyfrio’r coed i gyd.

5Ond roedd y goeden hon yn dalach

na’r coed o’i chwmpas i gyd.

Canghennau mawr a brigau hir,

a’i gwreiddiau’n lledu at y dŵr.

6Roedd yr adar i gyd yn nythu yn ei brigau,

a’r anifeiliaid gwyllt yn geni rhai bach dan ei changhennau.

Roedd y gwledydd mawr i gyd yn byw dan ei chysgod.

7Roedd yn rhyfeddol o hardd gyda’i changhennau hir,

a’i gwreiddiau’n ymestyn yn ddwfn at ddigonedd o ddŵr.

8Doedd coed cedrwydd eraill gardd Duw ddim yn cystadlu â hi.

Doedd canghennau’r coed pinwydd ddim byd tebyg;

a’r coed planwydd yn ddim o’u cymharu â hi.

Doedd dim un o goed gardd Duw mor hardd â hon!

9Fi wnaeth hi’n hardd gyda’i holl ganghennau.

Roedd coed Eden i gyd, gardd Duw, yn genfigennus ohoni.

10“‘Felly, dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am ei bod hi mor falch ohoni ei hun, mor aruthrol dal gyda’i brigau uchaf yn y cymylau, 11rhois hi yn nwylo arweinydd y cenhedloedd, i’w chosbi am ei drygioni. Dw i wedi’i thaflu hi i ffwrdd. 12Mae byddin estron y wlad fwya creulon wedi’i thorri i lawr a’i gadael i orwedd ar y mynyddoedd. Mae ei changhennau’n gorwedd ar chwâl yn y dyffrynnoedd a’r ceunentydd. Mae pawb oedd yn cysgodi oddi tani wedi ffoi pan gafodd ei thaflu i ffwrdd. 13Mae’r adar i gyd yn clwydo ar ei boncyff marw, a’r anifeiliaid gwyllt yn cerdded dros ei changhennau.

14“‘Digwyddodd hyn i stopio i unrhyw goeden arall dyfu mor dal nes bod ei brigau uchaf yn y cymylau. Byddan nhw i gyd, fel pobl feidrol, yn marw yn nyfnder y ddaear. Byddan nhw’n ymuno gyda phawb arall sydd yn y Pwll.

15“‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan aeth Asyria i lawr i’r bedd, roedd y dyfnder yn galaru amdani. Dyma fi’n dal yr afonydd yn ôl oddi wrthi. Gwisgais Libanus mewn du, a gwneud i’r coed eraill i gyd wywo. 16Roedd y gwledydd i gyd yn crynu pan glywon nhw amdani’n syrthio, pan wnes i ei thaflu i lawr i fyd y meirw gyda phawb arall sydd yn y Pwll. Yn y byd tanddaearol cafodd coed Eden i gyd a’r gorau o goed Libanus, pob un oedd wedi cael digon o ddŵr, eu bodloni. 17Roedd ei chefnogwyr i gyd (y gwledydd oedd wedi byw dan ei chysgod) wedi mynd i lawr i fyd y meirw gyda hi, i ymuno gyda phawb arall oedd wedi’u lladd â’r cleddyf.

18“‘Pa un o goed Eden sydd unrhyw beth tebyg i ti? Ond byddi dithau’n cael dy fwrw i lawr i ddyfnder y ddaear gyda choed Eden. Byddi’n byw gyda’r paganiaid eraill gafodd eu lladd â’r cleddyf!’ Dyna fydd yn digwydd i’r Pharo a’i fyddin enfawr,” meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD.