No themes applied yet
1A dymaʼr llais yn dweud wrtho i, “Ddyn, bwytaʼr sgrôl yma sydd o dy flaen, ac wedyn mynd i siarad gyda phobl Israel.” 2Felly dyma fiʼn agor fy ngheg, a dyma feʼn bwydoʼr sgrôl i mi. 3A dyma feʼn dweud, “Ddyn, llenwa dy fol gydaʼr sgrôl yma dw iʼn ei rhoi i ti.” A dyma fiʼn ei bwyta. Roedd hiʼn blasuʼn felys fel mêl.
4A dyma feʼn dweud wrtho i, “Ddyn, dos at bobl Israel a dweud beth ydy fy neges i iddyn nhw. 5Dw i ddim yn dy anfon di at bobl syʼn siarad iaith wyt ti ddim yn ei deall. Pobl Israel ydyn nhw. 6Petawn iʼn dy anfon di at dyrfa o bobl syʼn siarad iaith wyt ti ddim yn ei deall, maeʼn siŵr y byddaiʼr rheiny yn gwrando arnat ti! 7Ond fydd pobl Israel ddim yn gwrando arnat ti, achos dŷn nhw ddim yn fodlon gwrando arna i. Maen nhwʼn bobl ofnadwy o benstiff ac ystyfnig. 8Felly dw iʼn mynd i dy wneud diʼr un mor benderfynol a phenstiff ag ydyn nhw! 9Bydda iʼn dy wneud di yn galed fel diemwnt (syʼn gletach na charreg fflint!) Paid bod ag ofn. Paid gadael iddyn nhw dy ddychryn di. Maen nhwʼn griw o rebeliaid.
10“Felly, gwranda diʼn ofalus ar bopeth dw iʼn ddweud, aʼi gymryd o ddifrif. 11Dos at dy gydwladwyr, y bobl gafodd eu symud yma yn gaethion gyda ti. Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.’ Dw i am i ti wneud hyn os ydyn nhwʼn dewis gwrando neu beidio.”
12Yna cododd yr ysbryd fi oddi ar y llawr. Clywais sŵn rymblan y tu ôl i mi wrth i ysblander yr ARGLWYDD godi oʼi le. 13Adenydd y creaduriaid byw oedd yn rhwbio yn erbyn ei gilydd, a sŵn yr olwynion wrth eu hymyl yn troi. Roedd fel sŵn rymblan mawr. 14Cododd yr ysbryd fi oddi ar y llawr, aʼm cario i ffwrdd. Rôn iʼn teimloʼn flin ac yn llawn emosiwn. Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i ac roedd yn rheoli beth oedd yn digwydd i mi yn llwyr.
15Dyma fiʼn cyrraedd Tel-abib,3:15 Tel-abib Sef, “twmpath y llifogydd”. Ni ddylid ei gymysgu gyda dinas Tel Aviv yn Israel. sydd wrth ymyl Camlas Cebar. Bues i yno am wythnos, yn eistedd yn syfrdan yng nghanol y bobl oedd wedi cael eu caethgludo.
Penodi Eseciel yn Wyliwr3:15 Eseciel 33:1-20
(Eseciel 33:1-9)
16Yna ar ôl wythnos dyma fiʼn cael neges gan yr ARGLWYDD: 17“Ddyn, dw iʼn dy benodi di yn wyliwr i warchod pobl Israel. Rhaid i ti eu rhybuddio nhw pan fydda iʼn rhoi neges i ti. 18Pan dw iʼn dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt tiʼn siŵr o farw,’ a tithau ddim wediʼi rybuddio aʼi annog i newid ei ffyrdd a byw, bydd eʼn marw am ei fod wedi pechu a bydda iʼn dy ddal diʼn gyfrifol ei fod wedi marw. 19Ond os byddi di wediʼi rybuddio, ac yntau wedi gwrthod newid ei ffyrdd, bydd eʼn marw am ei fod wedi pechu ond byddi di wedi achub dy hun.3:19 Eseciel 33:7-9
20“Ar y llaw arall, os ydy rhywun sydd fel arfer yn gwneud beth syʼn iawn yn newid ei ffyrdd ac yn dechrau gwneud pethau drwg, bydda iʼn achosi i rywbeth ddigwydd fydd yn gwneud iʼr person hwnnw syrthio. Bydd eʼn marw. Os na fyddi di wediʼi rybuddio bydd eʼn marw am ei fod wedi pechu. Fydd y pethau da wnaeth e oʼr blaen ddim yn cyfrif. A bydda iʼn dy ddal diʼn gyfrifol am beth fydd yn digwydd. 21Ond os byddi di wediʼi rybuddio fe i beidio pechu, ac yntau wedi gwrando arnat ti, bydd eʼn cael byw, a byddi di hefyd wedi achub dy hun.”
Eseciel yn methu siarad
22Dyma ddylanwad yr ARGLWYDD yn dod arna i, a dyma feʼn dweud, “Cod ar dy draed. Dos allan iʼr dyffryn, a bydda iʼn siarad gyda ti yno.” 23Felly dyma fiʼn codiʼn syth, ac yn mynd allan iʼr dyffryn. A dyma fiʼn gweld ysblander yr ARGLWYDD eto, yn union yr un fath ag wrth Gamlas Cebar. Syrthiais ar fy wyneb ar lawr. 24Ond yna dyma ysbryd yn mynd i mewn i mi ac yn fy nghodi ar fy nhraed. A dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Dos, a chau dy hun i mewn yn dy dŷ. 25Bydd y bobl ymaʼn dy rwymo di gyda rhaffau, er mwyn dy rwystro di rhag cymysgu gyda nhw y tu allan. 26Bydda iʼn gwneud i dy dafod di sticio i dop dy geg a fyddi di ddim yn gallu siarad na dweud wrthyn nhw beth maen nhwʼn ei wneud oʼi le. Maen nhwʼn griw o rebeliaid. 27Ond pan fydd gen i rywbeth iʼw ddweud wrthot ti, bydda iʼn agor dy geg di i ti allu dweud wrthyn nhw, ‘Dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.’ Cân nhw ddewis os ydyn nhw am wrando neu beidio. Maen nhwʼn griw o rebeliaid.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015