Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseciel 29

Yr Aifft

1Roedd hi ddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y deuddegfed diwrnod o’r degfed mis. Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: 2“Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu’r Pharo, brenin yr Aifft, a proffwydo yn ei erbyn e a holl wlad yr Aifft. 3Dyma rwyt ti i’w ddweud, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:

Notes for verses 1–32 entries

Text notes

  • Ezekiel 29:1 deuddegfed diwrnod o’r degfed mis Ionawr 7, 587 CC mae’n debyg. View in passage

  • Ezekiel 29:2 Pharo Apries, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Hoffra, oedd yn frenin yr Aifft o 589 i 570 CC – gw. Jeremeia 44:30 a 37:5,11. View in passage

Dw i’n mynd i ddelio gyda ti!

y Pharo, brenin yr Aifft;

y ddraig fawr sy’n gorwedd

yng nghanol ei ffosydd.

“Fi piau afon Nîl,” meddet ti,

“a fi sydd wedi’i chreu hi.”

4Bydda i’n rhoi bachyn yn dy ên

ac yn dy lusgo allan o’r dŵr

gyda physgod o’r ffosydd yn

glynu wrth dy groen.

5Bydda i’n dy daflu i’r anialwch,

ti a physgod y ffosydd.

Byddi’n gorwedd, heb dy gladdu,

i farw ar dir agored –

yn fwyd i’r anifeiliaid ac i’r adar.

6Yna bydd pawb sy’n byw yn yr Aifft

yn gweld mai fi ydy’r ARGLWYDD.

Rwyt wedi bod yn ffon fagl wan fel brwynen

i bobl Israel bwyso arni.

7Dyma nhw’n gafael ynot, ond dyma ti’n torri

ac yn bwrw eu hysgwydd o’i lle.

Wrth iddyn nhw bwyso arnat dyma ti’n hollti

a gadael eu cluniau’n sigledig.

Notes for verses 6–71 entry

Cross-references

8“‘Felly, dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i’n anfon byddin i ymosod arnat ti, a bydd yr holl bobl a’r anifeiliaid yn cael eu lladd. 9Bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag. Byddan nhw’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.

“‘Am dy fod wedi dweud, “Fi piau afon Nîl, a fi sydd wedi’i chreu hi,” 10dw i’n mynd i ddelio gyda ti a dy ffosydd. Dw i’n mynd i droi gwlad yr Aifft yn anialwch diffaith yr holl ffordd o Migdol yn y gogledd i Aswan yn y de, sydd ar y ffin gydag Ethiopia. 11Fydd neb yn gallu byw yno am bedwar deg o flynyddoedd – fydd dim pobl nac anifeiliaid yn crwydro yno. 12Bydda i’n gwneud gwlad yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a’i dinasoedd yn adfeilion. Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy’r gwledydd i gyd.

Notes for verses 9–121 entry

Text notes

  • Ezekiel 29:10 Ethiopia Hebraeg, Cwsh, sef ardal i’r de o’r Aifft, yn cynnwys rhannau o Ethiopia a’r Swdan. View in passage

13“‘Ond yna, dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ar ddiwedd y pedwar deg mlynedd bydda i’n casglu pobl yr Aifft o’r gwledydd lle roedden nhw ar chwâl. 14Bydda i’n adfer sefyllfa pobl yr Aifft a dod â nhw yn ôl i ardal Pathros, i wlad eu mebyd. Ond gwlad ddi-nod fydd yr Aifft. 15Bydd hi’n un o’r gwledydd lleia dylanwadol, a fydd hi byth yn rheoli gwledydd eraill eto. 16A fydd Israel ddim yn pwyso arni byth eto. Bydd hi’n atgoffa Israel o’i phechod yn troi at yr Aifft am help. Byddan nhw’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.’”

Selio Tynged yr Aifft

17Roedd hi ddau ddeg saith mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta’r flwyddyn. A dyma fi’n cael neges gan yr ARGLWYDD: 18“Ddyn, mae byddin Nebwchadnesar brenin Babilon wedi brwydro’n galed yn erbyn Tyrus. Maen nhw wedi gweithio’u bysedd at yr asgwrn, ond dydy’r milwyr wedi ennill dim ar ôl yr holl ymdrech! 19Felly dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i’n mynd i roi gwlad yr Aifft yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd e’n cymryd holl gyfoeth y wlad ac yn ysbeilio’i thrysorau i dalu cyflog i’w filwyr. 20Dw i’n mynd i roi gwlad yr Aifft iddo i’w ddigolledu am yr holl ymdrech yn ymosod ar Tyrus. Mae e wedi bod yn gwneud hyn i mi.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.

Notes for verses 17–202 entries

Text notes

  • Ezekiel 29:17 ddiwrnod cynta’r flwyddyn Ebrill 26, 571 CC mae’n debyg. View in passage

  • Ezekiel 29:18 Hebraeg, “wedi gwneud pob pen yn foel a phob ysgwydd yn gignoeth”. View in passage

21“Bryd hynny bydda i’n gwneud Israel yn wlad gref unwaith eto, a bydd pobl yn gwrando ar beth rwyt ti’n ddweud. Byddan nhw’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.”