Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseciel 24

Y Crochan – Diwedd Jerwsalem

1Roedd hi’r nawfed flwyddyn ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y degfed diwrnod o’r degfed mis. A dyma fi’n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD: 2“Ddyn, dw i eisiau i ti ysgrifennu dyddiad heddiw i lawr. Heddiw ydy’r union ddiwrnod mae brenin Babilon wedi dechrau ymosod ar Jerwsalem. 3Rhanna’r darlun yma gyda rebeliaid anufudd Israel: ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:

Notes for verses 1–31 entry

Text notes

  • Ezekiel 24:1 degfed diwrnod o’r degfed mis Ionawr 15, 588 CC mae’n debyg. gw. 2 Brenhinoedd 25:1; Jeremeia 39:1 View in passage

Rho’r crochan ar y tân a’i lenwi â dŵr.

4Rho ddarnau o gig ynddo,

y darnau gorau – y goes a’r ysgwydd.

Ei lenwi gyda’r esgyrn da

5o’r anifeiliaid gorau.

Rho bentwr o goed tân oddi tano,

a berwi’r cig a’i goginio

a’r esgyrn yn dal ynddo.

6“‘Felly, dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:

Gwae ddinas y tywallt gwaed –

y crochan sy’n llawn budreddi;

budreddi sy’n dal ynddo!

Tynnwch y darnau allan bob yn un –

sdim ots am y drefn.

7Mae’r gwaed dywalltwyd yn dal ynddi.

Cafodd ei dywallt ar garreg i bawb ei weld,

yn lle ei dywallt ar lawr i’r pridd ei lyncu.

8Felly dw i’n mynd i dywallt ei gwaed hi

ar garreg agored, er mwyn i bawb weld

faint dw i wedi digio, ac mai fi sy’n dial arni!

9“‘Felly dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:

Gwae ddinas y tywallt gwaed!

Dw i’n mynd i gasglu pentwr o goed;

10digon o goed i wneud tanllwyth o dân!

Coginio’r cig yn dda gyda digon o sbeisys.

Wedyn gwagio’r crochan a llosgi’r esgyrn.

11Yna rhoi’r crochan gwag yn ôl ar y tân golosg,

a’i boethi nes bydd y copr yn gloywi,

a’r amhuredd o’i fewn yn toddi

a’r budreddi yn cael ei losgi.

12Ond mae’r holl ymdrech i ddim pwrpas –

mae’r budreddi yn dal yna! Rhaid ei losgi!

13“‘Yr amhuredd ydy dy ymddygiad anweddus di. Dw i wedi ceisio dy lanhau di, ond i ddim pwrpas. Fyddi di ddim yn lân eto nes bydda i wedi tywallt fy llid i gyd arnat ti. 14Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod! Mae’r amser wedi dod i mi wneud rhywbeth! Does dim troi’n ôl. Fydda i’n dangos dim piti, nac yn teimlo’n sori am y peth. Dw i’n mynd i dy gosbi di am y cwbl rwyt ti wedi’i wneud, meddai’r ARGLWYDD, y Meistr.’”

Gwraig Eseciel yn marw

15Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: 16“Ddyn, dw i’n gwybod fod hyn yn mynd i fod yn ergyd galed, ond dw i’n mynd i gymryd y wraig wyt ti wedi gwirioni arni oddi arnat ti. Ond paid galaru amdani. Paid wylo. Paid colli dagrau. 17Byddi’n drist, ond cadwa’r peth i ti dy hun. Paid galaru’n gyhoeddus. Rho dwrban ar dy ben a sandalau ar dy draed. Paid cuddio hanner isaf dy wyneb, na derbyn bwyd gan bobl sy’n dod atat ti i gydymdeimlo.”

Notes for verses 15–171 entry

Text notes

  • Ezekiel 24:17 cuddio … i gydymdeimlo Arwyddion fod rhywun yn galaru. View in passage

18Y noson honno buodd fy ngwraig farw. Ond y bore wedyn dyma fi’n gwneud beth ddywedwyd wrtho i, a mynd allan i bregethu. 19A dyma’r bobl yn gofyn i mi, “Beth ydy ystyr hyn? Pam wyt fel yma?” 20A dyma fi’n dweud wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD wedi rhoi’r neges yma i mi: 21“Dwed wrth bobl Israel, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i’n mynd i ddinistrio’r deml – ie, y deml sy’n gwneud i chi deimlo mor siŵr ohonoch chi’ch hunain, yr un dych chi wedi gwirioni’n lân arni. Bydd y plant gafodd eu gadael ar ôl yn Jwda yn cael eu lladd. 22Rhaid i chi wneud yr un fath â fi. Peidio cuddio hanner isaf yr wyneb na derbyn bwyd gan bobl sydd eisiau cydymdeimlo. 23Gwisgo twrban ar eich pennau a sandalau ar eich traed. Peidio galaru na wylo. Ond byddwch chi’n gwywo o’ch mewn, o achos yr holl ddrwg dych chi wedi’i wneud. 24Dw i’n defnyddio Eseciel fel darlun i ddysgu gwers i chi. Rhaid i chi wneud yr un fath. Byddwch chi’n gwybod wedyn mai fi ydy’r Meistr, yr ARGLWYDD.’

25“A ti, ddyn, dyma fydd yn digwydd i ti ar y diwrnod y bydda i’n cymryd y ddinas sy’n eu gwneud nhw mor hapus oddi arnyn nhw, a’r deml maen nhw a’u plant wedi gwirioni’n lân arni: 26Ar y diwrnod hwnnw bydd ffoadur fydd wedi llwyddo i ddianc yn dod atat ti i ddweud beth ddigwyddodd. 27A byddi di’n cael siarad yn rhydd eto. Byddi’n siarad â’r un wnaeth ddianc, a ddim yn gorfod cadw’n dawel ddim mwy. Dw i’n dy ddefnyddio di fel darlun i ddysgu gwers i bobl Israel, iddyn nhw ddeall mai fi ydy’r ARGLWYDD.”

Notes for verses 25–271 entry

Cross-references