Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseciel 2

Yr ARGLWYDD yn dewis Eseciel

1Dyma’r llais yn dweud, “Ddyn, saf ar dy draed; dw i eisiau siarad â ti.” 2Dyma ysbryd yn dod i mewn i mi a gwneud i mi sefyll ar fy nhraed. A dyma’r llais oedd yn siarad â mi 3yn dweud: “Ddyn, dw i’n dy anfon di at bobl Israel. Maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i – nhw a’u hynafiaid hefyd. 4Maen nhw’n bobl benstiff ac ystyfnig. Rwyt i ddweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud.’ 5Os byddan nhw’n gwrando neu beidio – wedi’r cwbl maen nhw’n griw o rebeliaid – byddan nhw o leia’n gwybod fod proffwyd wedi bod gyda nhw.

Notes for verses 1–51 entry

Text notes

  • Ezekiel 2:1 Ddyn Hebraeg, “fab dyn”, sy’n golygu “person dynol”. View in passage

6“Ond paid dychryn pan fyddan nhw’n dy fygwth di. Bydd fel cael mieri a drain o dy gwmpas di ym mhobman, neu eistedd yng nghanol sgorpionau – ond paid ti bod ag ofn wrth iddyn nhw fygwth ac edrych yn gas arnat ti. 7Dwed di wrthyn nhw beth ydy’r neges gen i, os ydyn nhw am wrando neu beidio. Maen nhw’n griw anufudd. 8Gwna di’n siŵr dy fod ti’n gwrando arna i. Paid ti â thynnu’n groes. Agor dy geg a bwyta’r hyn dw i’n ei roi i ti.”

9A dyna pryd gwelais i law wedi’i hestyn allan ata i. Roedd y llaw yn dal sgrôl. 10Dyma’r sgrôl yn cael ei hagor o mlaen i. Roedd ysgrifen ar y ddwy ochr – a’r teitl oedd “Caneuon o alar, tristwch a gwae”.

Notes for verses 9–101 entry

Text notes

  • Ezekiel 2:9 sgrôl Rholyn o bapurfrwyn neu ledr gydag ysgrifen arno. View in passage