Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseciel 19

Cân i alaru am Israel

1“Dw i am i ti ganu cân i alaru am arweinwyr Israel. 2Dwed fel hyn:

‘Sut un oedd dy fam di?

Onid llewes gyda’r llewod,

yn gorwedd gyda’r llewod ifanc

ac yn magu ei chenawon?

3Magodd un o’i chenawon,

a thyfodd i fod yn llew ifanc cryf.

Dysgodd sut i hela a rhwygo’i ysglyfaeth;

roedd yn bwyta cnawd dynol.

4Clywodd y gwledydd o’i gwmpas amdano,

a chafodd ei ddal yn eu trap.

Dyma nhw’n ei gymryd gyda bachau

yn gaeth i’r Aifft.

5Pan welodd y fam ei fod wedi mynd,

a bod ei gobaith wedi chwalu,

cymerodd un arall o’i chenawon,

a’i fagu i fod yn llew ifanc cryf.

6Cerddodd yng nghanol y llewod,

wedi tyfu i fod yn llew ifanc cryf.

Dysgodd sut i hela a rhwygo’i ysglyfaeth;

roedd yn bwyta cnawd dynol.

7Cymerodd y gweddwon iddo’i hun

a dinistrio’r trefi’n llwyr.

Pan oedd yn rhuo,

roedd yn codi ofn ar bawb drwy’r wlad.

8Daeth byddinoedd y gwledydd o’i gwmpas

i ymosod arno.

Dyma nhw’n taflu eu rhwyd drosto

a’i ddal yn eu trap;

9rhoi coler a bachyn am ei wddf,

a mynd ag e at frenin Babilon.

Cafodd ei ddal yn gaeth yn y carchar

fel bod ei ruo i’w glywed ddim mwy

ar fynyddoedd Israel.

10Roedd dy fam fel gwinwydden gyda brigau hir

wedi’i phlannu ar lan y dŵr.

Roedd ei changhennau yn llawn ffrwyth

am fod digon o ddŵr iddi.

11Tyfodd ei changhennau’n ddigon cryf

i wneud teyrnwialen brenin ohonyn nhw.

Tyfodd yn uchel at y cymylau;

roedd pawb yn ei gweld am ei bod mor dal ac mor ganghennog.

12Ond cafodd ei thynnu o’r gwraidd a’i thaflu ar lawr.

Chwythodd gwynt poeth y dwyrain

a chrino ei changhennau ffrwythlon.

Llosgodd yn y tân.

13Bellach mae wedi’i phlannu yn yr anialwch

mewn tir sych, cras.

14Lledodd y tân o’i changen gref

a’i llosgi o’i gwraidd i’w brigau.

Doedd dim cangen ddigon cryf ar ôl

i wneud teyrnwialen ohoni.’

Dyma gân i alaru! Cân ar gyfer angladd ydy hi!”