information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Pregethwr 11

1“Bydd yn hael a rhannu dy gynnyrch –

ac ymhen amser fe gei dy dalu’n ôl.

2Rho beth ohono i nifer o wahanol bobl,

wyddost ti ddim beth all fynd o’i le yn dy fywyd.”

Notes for verses 1–21 entry

Text notes

  • Ecclesiastes 11:1 Hebraeg, “Tafla dy fara ar wyneb y dyfroedd.” Idiom sy’n disgrifio haelioni. View in passage

3Pan mae’r cymylau’n dduon,

byddan nhw’n tywallt glaw ar y ddaear.

Sdim ots i ba gyfeiriad mae coeden yn syrthio,

bydd yn aros lle syrthiodd.

4Fydd ffermwr sy’n disgwyl tywydd perffaith byth yn hau,

a’r un sy’n gwylio pob cwmwl byth yn medi cynhaeaf.

5Yn union fel na elli wybod sut mae anadl bywyd

yn mynd i gorff plentyn yng nghroth ei fam,

alli di ddim rhagweld beth fydd Duw’n ei wneud,

a fe sydd wedi creu popeth.

6Hau dy had yn y bore,

a phaid segura gyda’r nos;

wyddost ti ddim pa un fydd yn llwyddo –

y naill neu’r llall, neu’r ddau fel ei gilydd.

Cyngor yr Athro – mwynhau bywyd

7“Mae golau bywyd mor felys,

ac mae’n hyfryd cael gweld yr haul!”

8Os ydy rhywun yn cael oes hir,

dylai fwynhau’r blynyddoedd i gyd,

ond rhaid cofio fod dyddiau tywyll marwolaeth yn hirach.

Mae popeth sydd i ddod yn ddirgelwch!

Notes for verses 7–81 entry

Text notes

  • Ecclesiastes 11:7 golau bywyd Hebraeg, “golau”. Mae golau yn ddarlun o fywyd, a thywyllwch yn ddarlun o farwolaeth. View in passage

Cyngor i bobl ifanc fod yn ddoeth

9Ti’n ifanc! Mwynha dy hun tra mae gen ti gyfle!

Cei ddigon o hwyl a sbri pan wyt ti’n ifanc.

Gwna be fynni di – beth bynnag sy’n cymryd dy ffansi –

ond cofia y bydd Duw yn dy alw i gyfrif am y cwbl.

10Paid cael dy lethu gan boenau bywyd,

a chadwa dy hun yn iach!

Dydy ieuenctid a gwallt du ddim yn para’n hir!