Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Daniel 7

Gweledigaethau Daniel

(7:1–12:13)

Gweledigaeth Daniel o’r Pedwar Creadur

1Yn ystod blwyddyn gyntaf teyrnasiad Belshasar, brenin Babilon, cafodd Daniel freuddwyd – gweledigaeth tra oedd yn cysgu yn ei wely. Ysgrifennodd grynodeb o’r freuddwyd. 2“Yn y weledigaeth ges i y noson honno roedd storm fawr ar y môr, a gwyntoedd yn chwythu o bob cyfeiriad. 3A dyma bedwar creadur mawr yn codi allan o’r môr, pob un ohonyn nhw’n wahanol i’w gilydd.

Notes for verses 1–32 entries

Text notes

  • Daniel 7:1 blwyddyn gyntaf Belshasar tua 553 CC Roedd Daniel tua 67 oed ar y pryd. View in passage

Cross-references

  • Daniel 7:3 – Revelation 13:1 ; Revelation 17:8

4“Roedd y cyntaf yn edrych fel llew, ond gydag adenydd fel eryr. Tra oeddwn i’n edrych, cafodd yr adenydd eu rhwygo oddi arno. Yna cafodd ei godi nes ei fod yn sefyll ar ei draed fel person dynol, a chafodd feddwl dynol.

Notes for verse 41 entry

Cross-references

5“Wedyn dyma fi’n gweld ail greadur – un gwahanol. Roedd hwn yn edrych fel arth. Roedd yn symud o ochr i ochr, ac roedd ganddo dair asen yn ei geg, rhwng ei ddannedd. A dyma lais yn dweud wrtho, ‘Dos! Ymosod, a llarpio llawer o bobl!’

6“Yna, wrth i mi edrych, dyma greadur arall yn dod i’r golwg. Roedd hwn yn edrych fel llewpard, ond roedd ganddo bedair o adenydd ar ei gefn, fel adenydd adar. Roedd gan y creadur yma bedwar pen, a chafodd awdurdod i lywodraethu.

Notes for verse 61 entry

Text notes

  • Daniel 7:6 bedwar pen Pedwar brenin Persia falle – gw. 11:2. View in passage

7“Wedyn, yn y weledigaeth ges i y noson honno, dyma bedwerydd creadur yn dod i’r golwg. Roedd hwn yn un erchyll, dychrynllyd, ac yn ofnadwy o gryf. Roedd ganddo ddwy res o ddannedd haearn. Roedd yn llarpio a chnoi, a sathru beth bynnag oedd ar ôl dan draed. Roedd yn hollol wahanol i’r creaduriaid eraill, ac roedd ganddo ddeg corn.

Notes for verse 71 entry

Cross-references

  • Daniel 7:7 – Revelation 12:3 ; Revelation 13:1

8“Tra oeddwn i’n edrych ar y cyrn, dyma gorn arall – un bach – yn codi rhyngddyn nhw. Dyma dri o’r cyrn eraill yn cael eu gwthio o’u gwraidd i wneud lle i’r un bach. Roedd gan y corn yma lygaid tebyg i lygaid person dynol, a cheg oedd yn brolio pethau mawr.

Notes for verse 81 entry

Cross-references

  • Daniel 7:8 – Revelation 13:5 ,Revelation 13:6

Gweledigaeth o’r Un Hynafol a’r un oedd fel person dynol

9Wrth i mi syllu,

cafodd gorseddau eu gosod i fyny,

a dyma’r Un Hynafol yn eistedd.

Roedd ei ddillad yn wyn fel eira,

a’i wallt fel gwlân oen.

Roedd ei orsedd yn fflamau tân,

a’i holwynion yn wenfflam.

10Roedd afon o dân yn llifo

allan oddi wrtho.

Roedd miloedd ar filoedd yn ei wasanaethu,

a miliynau lawer yn sefyll o’i flaen.

Eisteddodd y llys, ac agorwyd y llyfrau.

Notes for verses 9–102 entries

Cross-references

  • Daniel 7:9 – a Revelation 20:4 ; b Revelation 1:14

  • Daniel 7:10 – a Revelation 5:11 ; b Revelation 20:12

11“Rôn i’n dal i edrych wrth i’r corn bach ddal ati i frolio pethau mawr. Ac wrth i mi edrych dyma’r pedwerydd creadur yn cael ei ladd a’i daflu i’r tân. 12(Cafodd yr awdurdod i lywodraethu ei gymryd oddi ar y creaduriaid eraill, er eu bod wedi cael byw am gyfnod ar ôl hynny.)

Notes for verses 11–121 entry

Text notes

  • Daniel 7:12 am gyfnod ar ôl hynny Aramaeg “am amser a chyfnod”. View in passage

13Yn fy ngweledigaeth y noson honno,

gwelais un oedd yn edrych fel person dynol

yn dod ar gymylau’r awyr.

Aeth i fyny at yr Un Hynafol –

cafodd ei gymryd ato.

14A derbyniodd awdurdod, anrhydedd a grym.

Roedd rhaid i bawb, o bob gwlad ac iaith ei anrhydeddu.

Mae ei awdurdod yn dragwyddol – fydd e byth yn dod i ben.

Fydd ei deyrnasiad byth yn cael ei dinistrio.

Notes for verses 13–143 entries

Text notes

  • Daniel 7:13 person dynol Aramaeg, “mab y dyn”. Roedd Iesu’n aml yn disgrifio’i hun fel ‘Mab y Dyn’. View in passage

Cross-references

Esbonio’r weledigaeth

15“Rôn i, Daniel, wedi cynhyrfu’r tu mewn. Roedd y gweledigaethau wedi fy nychryn i. 16Dyma fi’n mynd at un o’r rhai oedd yn sefyll yno, a gofyn beth oedd ystyr y cwbl. A dyma fe’n esbonio’r freuddwyd i mi.

17“‘Mae’r pedwar creadur mawr yn cynrychioli pedwar brenin daearol fydd yn teyrnasu. 18Ond yn y diwedd bydd pobl sanctaidd y Duw Goruchaf yn cael teyrnasu – byddan nhw’n teyrnasu am byth!’

Notes for verses 17–181 entry

Cross-references

19“Ond wedyn roeddwn i eisiau gwybod mwy am y pedwerydd creadur, yr un oedd yn hollol wahanol i’r lleill. Roedd hwnnw’n wirioneddol ddychrynllyd gyda’i ddannedd haearn a’i grafangau pres. Roedd yn llarpio a chnoi, a sathru dan draed bopeth oedd yn dal i sefyll. 20Rôn i hefyd eisiau gwybod beth oedd y deg corn ar ei ben, a’r corn bach gododd wedyn a gwneud i dri o’r lleill syrthio. Dyma’r corn oedd gyda llygaid, a cheg oedd yn brolio pethau mawr. Roedd y corn yma’n edrych yn gryfach na’r lleill. 21Rôn i’n gweld y corn yma yn brwydro yn erbyn pobl sanctaidd Duw ac yn eu trechu nhw. 22Dyna oedd yn digwydd hyd nes i’r Un Hynafol ddod a barnu o blaid pobl sanctaidd y Duw Goruchaf. A dyma nhw wedyn yn cael teyrnasu.

Notes for verses 19–223 entries

Text notes

  • Daniel 7:21 corn bach … trechu nhw Antiochus IV Epiphanes mae’n debyg. Roedd yn teyrnasu o tua 175 i 164 CC ac yn hynod o greulon tuag at yr Iddewon. View in passage

Cross-references

23“Dyma ddwedodd wrtho i:

‘Mae’r pedwerydd creadur yn cynrychioli ymerodraeth

fydd yn wahanol i bob teyrnas arall.

Bydd yn llyncu’r byd i gyd,

ac yn sathru pawb a phopeth.

24Mae’r deg corn yn cynrychioli deg brenin

fydd yn teyrnasu ar yr ymerodraeth.

Ond wedyn bydd brenin arall yn codi –

brenin gwahanol i’r lleill.

Bydd yn bwrw i lawr dri brenin o’i flaen.

Notes for verses 23–241 entry

Cross-references

25Bydd yn herio’r Duw Goruchaf

ac yn cam-drin ei bobl sanctaidd.

Bydd yn ceisio newid yr amserau osodwyd yn y gyfraith,

a bydd pobl Dduw dan ei reolaeth

am gyfnod, dau gyfnod, a hanner cyfnod.

26Yna wedi i’r llys eistedd

bydd ei awdurdod yn cael ei gymryd oddi arno,

a’i ddinistrio’n llwyr – am byth!

Notes for verses 25–261 entry

Cross-references

  • Daniel 7:25 – Revelation 12:14 ; Revelation 13:5–6

27Bydd awdurdod brenhinol a grym

pob teyrnas dan y nef

yn cael ei roi i bobl sanctaidd Duw.

Mae Duw yn teyrnasu’n dragwyddol,

a bydd pob awdurdod arall yn ei wasanaethu

ac yn ufudd iddo.’

28A dyna ddiwedd y weledigaeth. Roeddwn i, Daniel, wedi dychryn. Rôn i’n welw. Ond cedwais y cwbl i mi fy hun.”