Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Daniel 4

Salwch Nebwchadnesar

Llythyr Nebwchadnesar am ei ail freuddwyd

1Y brenin Nebwchadnesar, at y bobl i gyd, o bob gwlad ac iaith – pawb drwy’r byd: Heddwch a llwyddiant i chi i gyd! 2Dw i eisiau dweud wrthoch chi am y ffordd wyrthiol mae’r Duw Goruchaf wedi dangos ei hun i mi.

3Mae’r arwyddion mae’n eu rhoi yn rhyfeddol!

Mae ei wyrthiau yn syfrdanol!

Fe ydy’r un sy’n teyrnasu am byth,

ac yn rheoli popeth o un genhedlaeth i’r llall!

4Roeddwn i, Nebwchadnesar, yn byw’n foethus ac yn ymlacio adre yn y palas. 5Ond un noson ces i freuddwyd wnaeth fy nychryn i go iawn. Roedd beth welais i yn hunllef ddychrynllyd. 6Felly dyma fi’n gorchymyn fod dynion doeth Babilon i gyd i gael eu galw, er mwyn iddyn nhw ddweud wrtho i beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd. 7Dyma’r dewiniaid, y swynwyr, y dynion doeth a’r consurwyr i gyd yn dod, a dyma fi’n dweud wrthyn nhw beth oedd y freuddwyd. Ond doedden nhw ddim yn gallu dweud wrtho i beth oedd hi’n ei olygu. 8Ond wedyn dyma Daniel yn dod (yr un gafodd ei alw’n Belteshasar, ar ôl y duw roeddwn i’n ei addoli) – mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo fe. A dyma fi’n dweud wrtho yntau beth oedd y freuddwyd. 9“Belteshasar. Ti ydy’r prif swynwr. Dw i’n gwybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a does run dirgelwch yn peri penbleth i ti. Dw i eisiau i ti ddweud beth ydy ystyr y freuddwyd yma. 10Dyma beth welais i yn y freuddwyd:

Rôn i’n gweld coeden fawr yng nghanol y ddaear –

roedd hi’n anhygoel o dal.

11Roedd y goeden yn tyfu’n fawr ac yn gref.

Roedd y goeden yn ymestyn mor uchel i’r awyr

roedd i’w gweld o bobman drwy’r byd i gyd.

12Roedd ei dail yn hardd, ac roedd digonedd o ffrwyth arni –

digon o fwyd i bawb!

Roedd anifeiliaid gwyllt yn cysgodi dani,

ac adar yn nythu yn ei brigau.

Roedd popeth byw yn cael eu bwyd oddi arni.

13“Tra rôn i’n gweld hyn yn y freuddwyd, dyma angel sanctaidd yn dod i lawr o’r nefoedd. 14Dyma fe’n gweiddi’n uchel,

Notes for verses 13–141 entry

Text notes

  • Daniel 4:13 angel Aramaeg, “gwyliwr”. Gair sy’n golygu ‘un effro’, ag a ddaeth i’w ddefnyddio’n gyson am ‘angel’ mewn llenyddiaeth Iddewig yn ddiweddarach. View in passage

‘Torrwch y goeden i lawr, a thorri ei changhennau i ffwrdd!

Tynnwch ei dail a chwalu ei ffrwyth!

Gyrrwch yr anifeiliaid i ffwrdd,

a heliwch yr adar o’i brigau!

15Ond gadewch y boncyff a’r gwreiddiau yn y ddaear,

gyda rhwymyn o haearn a phres amdano.

Bydd y gwlith yn ei wlychu gyda’r glaswellt o’i gwmpas;

a bydd yn bwyta planhigion gwyllt gyda’r anifeiliaid.

16Bydd yn sâl yn feddyliol ac yn meddwl ei fod yn anifail.

Bydd yn aros felly am amser hir.

17Mae’r angylion wedi cyhoeddi hyn,

a’r rhai sanctaidd wedi rhoi’r ddedfryd!

Notes for verses 15–173 entries

Text notes

  • Daniel 4:16 meddwl ei fod yn anifail Yr enw ar yr afiechyd meddwl yma ydy ‘lycanthropedd’ neu ‘soanthropedd’. View in passage

  • Daniel 4:16 amser hir Aramaeg, “saith o gyfnodau”. View in passage

  • Daniel 4:17 angylion gw. nodyn ar 4:13. View in passage

“‘Y bwriad ydy fod pob person byw i ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau’r byd. Mae’n gallu eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau, hyd yn oed y person mwyaf di-nod.’ 18Dyna’r freuddwyd ges i,” meddai Nebwchadnesar. “Dw i eisiau i ti, Belteshasar, ddweud beth mae’n ei olygu. Does neb arall o ddynion doeth y deyrnas wedi gallu esbonio’r ystyr i mi. Ond dw i’n siŵr y byddi di’n gallu, am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.”

Daniel yn esbonio’r freuddwyd

19Roedd Daniel (oedd hefyd yn cael ei alw’n Belteshasar) dan deimlad am beth amser. Roedd beth oedd yn mynd drwy ei feddwl yn ei ddychryn. Ond dyma’r brenin yn dweud wrtho, “Belteshasar, paid poeni. Paid gadael i’r freuddwyd dy ddychryn di.” Ac meddai Belteshasar, “Meistr, o na fyddai’r freuddwyd wedi’i rhoi i’ch gelynion chi, a’i hystyr ar gyfer y rhai sy’n eich casáu chi! 20Y goeden welsoch chi’n tyfu’n fawr ac yn gref, yn ymestyn mor uchel i’r awyr nes ei bod i’w gweld o bobman drwy’r byd i gyd – 21yr un gyda dail hardd a digonedd o ffrwyth arni, a’r anifeiliaid gwyllt yn cysgodi dani, a’r adar yn nythu yn ei brigau – 22chi ydy’r goeden yna, eich mawrhydi. Dych chi’n frenin mawr a chryf. Dych chi mor fawr, mae’ch awdurdod chi dros y byd i gyd. 23Ond wedyn dyma chi’n gweld angel yn dod i lawr o’r nefoedd, ac yn dweud, ‘Torrwch y goeden i lawr, a’i dinistrio, ond gadewch y boncyff yn y ddaear gyda rhwymyn o haearn a phres amdano. Fel y glaswellt o’i gwmpas, bydd y gwlith yn ei wlychu, a bydd yn byw gyda’r anifeiliaid gwyllt am amser hir.’ 24Dyma ystyr y freuddwyd, eich mawrhydi: Mae’r Duw Goruchaf wedi penderfynu mai dyma sy’n mynd i ddigwydd i’m meistr, y brenin. 25Byddwch chi’n cael eich cymryd allan o gymdeithas, ac yn byw gyda’r anifeiliaid gwyllt. Byddwch chi’n bwyta glaswellt fel ychen, ac allan yn yr awyr agored yn cael eich gwlychu gan wlith. Bydd amser hir yn mynd heibio, nes i chi ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau’r byd, ac yn eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau. 26Ond fel y boncyff a’r gwreiddiau yn cael eu gadael, byddwch chi’n cael eich teyrnas yn ôl pan fyddwch chi’n cydnabod fod yr Un nefol yn rheoli’r cwbl. 27Felly plîs ga i roi cyngor i chi, eich mawrhydi. Trowch gefn ar eich pechod, a gwneud y peth iawn. Stopiwch wneud pethau drwg, a dechrau bod yn garedig at bobl dlawd. Falle, wedyn, y cewch chi ddal i fod yn llwyddiannus.”

Notes for verses 19–272 entries

Text notes

28Ond digwyddodd y cwbl i Nebwchadnesar. 29Flwyddyn yn ddiweddarach pan oedd yn cerdded ar do ei balas brenhinol yn Babilon, 30dwedodd fel yma: “Edrychwch ar Babilon, y ddinas wych yma! Fi sydd wedi adeiladu’r cwbl, yn ganolfan frenhinol i ddangos mor bwerus ac mor fawr ydw i.” 31Doedd y brenin ddim wedi gorffen ei frawddeg pan glywodd lais o’r nefoedd yn dweud: “Dyma sy’n cael ei ddweud wrthot ti, y Brenin Nebwchadnesar: mae dy deyrnas wedi’i chymryd oddi arnat ti! 32Byddi’n cael dy gymryd allan o gymdeithas, yn byw gyda’r anifeiliaid gwyllt, ac yn bwyta glaswellt fel ychen. Bydd amser hir yn mynd heibio cyn i ti ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau’r byd, ac yn eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau.”

Notes for verses 28–321 entry

Text notes

33A dyna ddigwyddodd yn syth wedyn. Daeth beth gafodd ei ddweud am Nebwchadnesar yn wir. Cafodd ei gymryd allan o gymdeithas. Dechreuodd fwyta glaswellt, fel ychen. Roedd ei gorff yn cael ei wlychu gan wlith yn yr awyr agored, nes bod ei wallt wedi tyfu fel plu eryr, a’i ewinedd fel crafangau aderyn.

Nebwchadnesar yn addoli Duw

34“Ond yn y diwedd, dyma fi, Nebwchadnesar, yn troi at yr Un nefol, a ches fy iacháu yn feddyliol. Dechreuais foli y Duw Goruchaf, ac addoli’r Un sy’n byw am byth.

Mae ei awdurdod yn para am byth,

ac mae’n teyrnasu o un genhedlaeth i’r llall.

35Dydy pobl y byd i gyd yn ddim o’i gymharu ag e.

Mae’n gwneud beth mae ei eisiau

gyda’r grymoedd nefol, a phobl ar y ddaear.

Does neb yn gallu ei stopio

na’i herio drwy ddweud, ‘Beth wyt ti’n wneud?’

36“Pan ges i fy iacháu, ces fynd yn ôl i fod yn frenin, gydag anrhydedd ac ysblander. Daeth gweinidogion y llywodraeth a’r uchel-swyddogion i gyd i’m gwneud yn frenin unwaith eto. Roedd gen i fwy o awdurdod nag erioed! 37A dyna pam dw i’n addoli, ac yn rhoi’r clod a’r anrhydedd i gyd i Frenin y nefoedd, sydd bob amser yn gwneud beth sy’n iawn ac yn deg. Mae’n rhoi’r rhai balch yn eu lle!”