Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Amos 3

1Bobl Israel, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD yn eich erbyn chi. Chi, y bobl ddois i â nhw allan o wlad yr Aifft.

2“O blith holl bobloedd y ddaear,

chi ydy’r rhai wnes i ddewis –

a dyna pam mae’n rhaid i mi eich galw chi i gyfrif

am yr holl ddrwg dych chi wedi’i wneud.”

Gwaith y Proffwyd

3Ydy dau berson yn gallu teithio gyda’i gilydd

heb fod wedi trefnu i gyfarfod?

4Ydy llew yn rhuo yn y goedwig

pan does ganddo ddim ysglyfaeth?

Ydy llew ifanc yn grwnian yn fodlon yn ei ffau

oni bai ei fod wedi dal rhywbeth?

5Ydy aderyn yn cael ei ddal mewn rhwyd

os nad oes abwyd yn y trap?

Ydy trap ar lawr yn cau yn sydyn

heb fod rhywbeth wedi’i ddal ynddo?

6Ydy pobl ddim yn dychryn yn y dre

wrth glywed y corn hwrdd

yn seinio fod ymosodiad?

Ydy dinistr yn gallu dod ar ddinas

heb i’r ARGLWYDD adael i’r peth ddigwydd?

7Dydy fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn gwneud dim byd

heb ddangos ei gynllun i’w weision y proffwydi.

8Pan mae’r llew yn rhuo,

pwy sydd ddim yn ofni?

Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi siarad,

felly pwy sy’n mynd i wrthod proffwydo?

9Cyhoedda hyn i’r rhai sy’n byw yn y plastai yn Ashdod

ac yn y plastai yng ngwlad yr Aifft!

Dywed: “Dewch at eich gilydd i ben bryniau Samaria

i weld yr anhrefn llwyr sydd yn y ddinas,

a’r gormes sy’n digwydd yno.

10Allan nhw ddim gwneud beth sy’n iawn!”

Notes for verses 9–101 entry

Text notes

–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

“Yn eu plastai maen nhw’n storio trysorau

sydd wedi’u dwyn drwy drais.”

11Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:

“Bydd gelyn yn amgylchynu’r wlad!

Bydd yn rhwygo popeth oddi arni

ac yn ei gadael yn noeth.

Bydd ei chaerau amddiffynnol yn cael eu hysbeilio’n llwyr!”

12Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“Fel bugail yn ‘achub’ unrhyw beth o safn y llew

– dwy goes, neu ddarn o’r glust –

dyna’r math o ‘achub’ fydd ar bobl Israel sy’n byw yn Samaria.

Dim ond coes y gwely neu gornel y fatras fydd ar ôl!”

13“Gwranda ar hyn, a rhybuddia bobl Jacob”

–fy Meistr, yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn, y Duw hollbwerus.

14“Pan fydda i’n cosbi Israel am wrthryfela,

bydda i’n dinistrio’r allor sydd yn Bethel.

Bydd y cyrn ar gorneli’r allor

yn cael eu torri ac yn disgyn ar lawr.

15Bydda i’n dymchwel eu tai, a’u tai haf nhw hefyd.

Bydd y tai oedd wedi’u haddurno ag ifori yn adfeilion.

Bydd y plastai yn cael eu chwalu’n llwyr!”

Notes for verses 14–151 entry

Cross-references

–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.