Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Actau 28

Ar Ynys Malta

1Ar ôl cyrraedd y lan yn saff dyma ni’n darganfod mai Malta oedd yr ynys. 2Roedd pobl yr ynys yn hynod garedig. Dyma nhw’n rhoi croeso i ni ac yn gwneud tân, am ei bod hi wedi dechrau glawio’n drwm, ac roedd hi’n oer. 3Roedd Paul wedi casglu llwyth o frigau mân, ac wrth iddo eu gosod nhw ar y tân, dyma neidr wenwynig oedd yn dianc o’r gwres yn glynu wrth ei law. 4Pan welodd pobl yr ynys y neidr yn hongian oddi ar ei law medden nhw, “Mae’n rhaid fod y dyn yna’n llofrudd! Dydy’r dduwies Cyfiawnder ddim am adael iddo fyw.” 5Ond dyma Paul yn ysgwyd y neidr i ffwrdd yn ôl i’r tân. Chafodd e ddim niwed o gwbl. 6Roedd y bobl yn disgwyl iddo chwyddo neu ddisgyn yn farw’n sydyn. Ond aeth amser hir heibio a dim byd yn digwydd iddo, felly dyma nhw’n dod i’r casgliad fod Paul yn dduw.

Notes for verses 1–61 entry

Text notes

  • Acts 28:2, 4 pobl yr ynys: Groeg, “y barbariaid” (gw. Rhufeiniaid 1:14; 1 Corinthiaid 14:11; Colosiaid 3:11). View in passage

7Roedd ystâd gyfagos yn perthyn i brif swyddog Rhufain ar yr ynys – dyn o’r enw Pobliws. Rhoddodd groeso mawr i ni, a dyma ni’n aros yn ei gartref am dridiau. 8Roedd tad Pobliws yn glaf yn ei wely, yn dioddef pyliau o wres uchel a dysentri. Aeth Paul i’w weld, ac ar ôl gweddïo rhoddodd ei ddwylo arno a’i iacháu. 9Ar ôl i hyn ddigwydd dyma lawer o bobl eraill oedd yn glaf ar yr ynys yn dod ato ac yn cael eu gwella. 10Cawson ni bob math o anrhegion ganddyn nhw, a phan ddaeth hi’n bryd i ni adael yr ynys dyma nhw’n rhoi popeth oedd ei angen i ni.

Cyrraedd Rhufain

11Aeth tri mis heibio cyn i ni hwylio o’r ynys. Aethon ar long oedd wedi gaeafu yno – llong o Alecsandria gyda delwau o’r ‘Efeilliaid dwyfol’ (Castor a Polwcs) ar ei thu blaen. 12Dyma ni’n hwylio i Syracwsa, ac yn aros yno am dridiau. 13Wedyn dyma ni’n croesi i Rhegium. Ar ôl bod yno am ddiwrnod cododd gwynt o’r de, felly’r diwrnod wedyn llwyddon ni i gyrraedd Potioli. 14Daethon ni o hyd i grŵp o gredinwyr yno, a chael gwahoddiad i aros gyda nhw am wythnos. Yna, o’r diwedd, dyma ni’n cyrraedd Rhufain. 15Roedd y Cristnogion yno wedi clywed ein bod ni’n dod, ac roedd rhai wedi teithio i lawr cyn belled â Marchnad Apius i’n cyfarfod ni, ac eraill at y Tair Tafarn. Roedd gweld y bobl yma’n galondid mawr i Paul, a diolchodd i Dduw am fod mor ffyddlon. 16Yn Rhufain cafodd Paul ganiatâd i fyw yn ei lety ei hun, ond fod milwr yno i’w warchod.

Notes for verses 11–164 entries

Text notes

  • Acts 28:12 Roedd Syracwsa ar Ynys Sisili. View in passage

  • Acts 28:13 Roedd Rhegium reit ar ben deheuol yr Eidal. View in passage

  • Acts 28:15 b Roedd Marchnad Apius tua 43 milltir (70 cilomedr) i’r de o Rufain. View in passage

  • Acts 28:15 c Roedd y Tair Tafarn tua 35 milltir (57 cilomedr) i’r de o Rufain. View in passage

Paul yn pregethu yn Rhufain

17Dri diwrnod ar ôl cyrraedd Rhufain dyma Paul yn galw’r arweinwyr Iddewig yno at ei gilydd. “Frodyr,” meddai wrthyn nhw: “er na wnes i ddim byd yn erbyn ein pobl, na dim sy’n groes i arferion ein hynafiaid, ces fy arestio yn Jerwsalem ac yna fy nhrosglwyddo i ddwylo’r Rhufeiniaid. 18Dyma’r llys yn fy nghael i’n ddieuog o unrhyw drosedd oedd yn haeddu marwolaeth, ac roedden nhw am fy rhyddhau i. 19Ond dyma’r arweinwyr Iddewig yn codi gwrthwynebiad a ches fy ngorfodi i apelio i Gesar – nid fod gen i unrhyw gyhuddiad i’w ddwyn yn erbyn fy mhobl. 20Gofynnais am gael eich gweld chi er mwyn esbonio hyn i gyd i chi. Y rheswm pam mae’r gadwyn yma arna i ydy am fy mod i yn credu yn y Meseia, Gobaith Israel!”

21Dyma nhw’n ei ateb, “Dŷn ni ddim wedi derbyn unrhyw lythyrau o Jwdea amdanat ti, a does neb o’n pobl ni wedi dod yma i sôn am y peth na dweud dim byd drwg amdanat ti. 22Ond dŷn ni eisiau clywed beth rwyt yn ei gredu. Dŷn ni’n gwybod fod pobl ym mhobman yn siarad yn erbyn y sect yma.”

23Felly dyma nhw’n trefnu diwrnod i gyfarfod â Paul. Daeth llawer iawn mwy ohonyn nhw yno y diwrnod hwnnw. Buodd Paul wrthi drwy’r dydd, o fore tan nos, yn esbonio beth oedd yn ei gredu. Roedd yn eu dysgu nhw am deyrnasiad Duw ac yn defnyddio Cyfraith Moses ac ysgrifau’r Proffwydi i geisio’u cael nhw i weld mai Iesu oedd y Meseia. 24Llwyddodd i argyhoeddi rhai ohonyn nhw, ond roedd y lleill yn gwrthod credu. 25Buon nhw’n dadlau gyda’i gilydd, a dyma nhw’n dechrau gadael ar ôl i Paul ddweud hyn i gloi: “Roedd yr Ysbryd Glân yn dweud y gwir wrth eich hynafiaid chi wrth siarad drwy’r proffwyd Eseia:

26‘Dos at y bobl yma a dweud,

“Gwrandwch yn astud, ond fyddwch chi ddim yn deall;

Edrychwch yn ofalus, ond fyddwch chi ddim yn dirnad.”

27Maen nhw’n rhy ystyfnig i ddysgu unrhyw beth –

maen nhw’n gwrthod gwrando,

ac wedi cau eu llygaid.

Fel arall, bydden nhw’n gweld â’u llygaid,

yn clywed â’u clustiau,

yn deall go iawn,

ac yn troi, a byddwn i’n eu hiacháu nhw.’

Notes for verses 26–271 entry

Cross-references

28Felly deallwch hyn – mae’r newyddion da am Dduw yn achub ar gael i bobl y cenhedloedd eraill hefyd, a byddan nhw’n gwrando!”

Notes for verse 281 entry

Text notes

  • Acts 28:28 Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu adn. 29, Pan ddwedodd e hyn, dyma’r arweinwyr Iddewig yn gadael. Roedd dadlau mawr yn eu plith nhw. View in passage

30Am ddwy flynedd gyfan, arhosodd Paul yno yn y tŷ oedd yn ei rentu. Roedd yn rhoi croeso i bawb oedd yn dod i’w weld. 31Roedd yn cyhoeddi’n gwbl hyderus fod Duw yn teyrnasu ac yn dysgu pobl am yr Arglwydd Iesu Grist, a doedd neb yn ei rwystro.

Notes for verses 30–311 entry

Text notes