Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

2 Samuel 23

Geiriau olaf Dafydd

1Dyma eiriau olaf Dafydd:

“Neges Dafydd fab Jesse.

Neges yr un gafodd ei godi’n arweinydd,

a’i eneinio gan Dduw Jacob.

Neges hoff ganwr Israel.

2Roedd Ysbryd yr ARGLWYDD yn siarad trwof fi;

ei neges e oeddwn i’n ei rhannu.

3Mae Duw Israel wedi siarad,

a dyma mae Craig Israel yn ei ddweud:

‘Mae’r un sy’n llywodraethu’n deg,

gan roi parch i Dduw,

4fel golau haul ar fore braf digwmwl

yn gwneud i’r glaswellt dyfu o’r ddaear

a sgleinio ar ôl y glaw.’

5Ie, dyna sut mae Duw’n gweld fy nheulu!

Mae wedi gwneud ymrwymiad am byth i mi.

Mae’r cwbl wedi’i drefnu – mae’n siŵr o ddigwydd!

Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i mi lwyddo

ac yn dod â’r cwbl dw i eisiau yn wir.

6Ond mae dynion drwg fel drain

sy’n dda i ddim ond i’w torri i lawr.

Does neb yn gafael ynddyn nhw â’u dwylo,

7dim ond gydag arf haearn neu goes gwaywffon.

Mae tân yn eu llosgi’n ulw yn y fan a’r lle!”

Milwyr dewr Dafydd

(1 Cronicl 11:10-41)

8Dyma enwau milwyr dewr Dafydd:

Iashofam yr Hachmoniad oedd pennaeth ‘Y Tri’. Roedd e wedi lladd wyth gant o ddynion gyda’i waywffon mewn un frwydr.

Notes for verse 81 entry

Text notes

  • 2 Samuel 23:8 fel 1 Cronicl 11:11; HebraegIoshef-bashefet. LXX Jeshbaal. View in passage

9Yna’r nesa ato fe o’r ‘Tri Dewr’ oedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach. Roedd e gyda Dafydd yn herio’r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Roedd gweddill byddin Israel wedi ffoi, 10ond dyma fe’n sefyll ei dir ac ymladd yn erbyn y Philistiaid. Roedd ei law wedi blino gymaint, ond wnaeth e ddim gollwng ei gleddyf. Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo y diwrnod hwnnw. Yna daeth y fyddin yn ôl, ond dim ond i ddwyn pethau oddi ar y cyrff!

11Y nesaf wedyn oedd Samma fab Age o deulu Harar. Un tro roedd byddin y Philistiaid wedi casglu yn Lechi lle roedd cae o ffacbys. Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen y Philistiaid, 12ond roedd Samma wedi sefyll ei dir yng nghanol y cae, i’w amddiffyn. Roedd wedi ymosod ar y Philistiaid, a dyma’r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo.

13Un tro, adeg y cynhaeaf, aeth tri o’r ‘Tri deg’ i lawr at Dafydd i Ogof Adwlam. Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm. 14Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra oedd prif wersyll garsiwn y Philistiaid yn Bethlehem. 15Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma fe’n dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr o’r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!” 16Felly dyma’r ‘Tri Dewr’ yn mynd drwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr o’r ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhw’n dod â’r dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma fe’n ei dywallt ar lawr yn offrwm i’r ARGLWYDD, 17a dweud, “ ARGLWYDD, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro’u bywydau i’w nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed. (Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‘Tri Dewr’.)

Notes for verses 13–172 entries

Text notes

  • 2 Samuel 23:13 Rhyw ddeuddeg milltir i’r de-orllewin o Bethlehem. View in passage

  • 2 Samuel 23:13 Reffaïm Dyffryn oedd ryw 3 milltir i’r de-orllewin o Jerwsalem. View in passage

18Abishai, brawd Joab a mab Serwia, oedd pennaeth y ‘Tri deg’. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda’i waywffon un tro. Roedd e’n enwog fel y Tri. 19A dweud y gwir, roedd yn fwy enwog na nhw, a fe oedd eu capten nhw. Ond doedd e ddim yn un o’r ‘Tri’.

20Roedd Benaia fab Jehoiada o Cabseël yn ddyn dewr hefyd. Roedd e wedi gwneud llawer o bethau dewr. Roedd wedi lladd dau o arwyr Moab. Roedd wedi mynd i lawr a lladd llew oedd wedi syrthio i bydew ar ddiwrnod o eira. 21Roedd hefyd wedi lladd cawr o ddyn o’r Aifft. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe’n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a’i ladd gyda hi. 22Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‘Tri Dewr’. 23Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un o’r ‘Tri’. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol.

Notes for verses 20–231 entry

Text notes

  • 2 Samuel 23:20 Cabseël Ar ffin ddeheuol Jwda, heb fod yn bell o Edom (cf. Josua 15:21). View in passage

24Yna gweddill y ‘Tri deg’ oedd:

Asahel, brawd Joab,

Elchanan fab Dodo o Bethlehem,

25Shamma o Charod,

Elicâ o Charod,

26Chelets o Pelet,

Ira fab Iccesh o Tecoa,

27Abieser o Anathoth,

Mefwnnai o Chwsha,

28Salmon o deulu Achoach,

Maharai o Netoffa,

29Cheleb fab Baana o Netoffa,

Itai fab Ribai o Gibea yn Benjamin,

30Benaia o Pirathon,

Hidai o Wadi Gaash,

31Abi-albon o Arba,

Asmafeth o Bachwrîm,

32Eliachba o Shaalbon,

Meibion Iashen,

Jonathan fab 33Shamma o Harar,

Achîam fab Sharar o Harar,

34Eliffelet fab Achasbai o Maacha,

Eliam fab Achitoffel o Gilo,

35Chetsrai o Carmel,

Notes for verse 351 entry

Text notes

  • 2 Samuel 23:35 Carmel Pentref tua naw milltir i’r de o Hebron (nid y Carmel yng ngogledd Israel). View in passage

Paarai o Arba,

36Igal fab Nathan o Soba,

Bani o Gad,

37Selec o Ammon,

Nachrai o Beëroth (oedd yn cario arfau Joab, mab Serwia),

38Ira yr Ithriad,

Gareb yr Ithriad,

39ac Wreia yr Hethiad.

(Tri deg saith i gyd.)