No themes applied yet
1Dŷn niʼn cydweithio gyda Duw ac yn apelio atoch chi i beidio ymateb yn arwynebol iʼw haelioni e. 2Mae Duwʼn dweud yn yr ysgrifau sanctaidd,
“Bydda iʼn gwrando arnat ti pan fydd yr amser yn iawn,
Ac yn dy helpu di pan ddawʼr dydd i mi achub.”6:2 Eseia 49:8
Edrychwch! Maeʼr amser iawn wedi dod! Maeʼr dydd i Dduw achub yma!
Amserau anodd Paul
3Dŷn ni ddim eisiau gwneud unrhyw beth fydd yn rhwystro pobl rhag dod i gredu, fel bod dim modd beio ein gwaith ni. 4Na, dŷn ni am ddangos yn glir mai gweision Duw ydyn ni. Dangos hynny yn y ffordd dŷn niʼn dal ati yng nghanol ein holl drafferthion, pan mae pethauʼn galed ac yn edrych yn anobeithiol. 5Dŷn ni wedi cael ein curo, ein carcharu, ein bygwth gan y mob, wedi gweithio nes ein bod wedi ymlâdd yn llwyr, ac wedi colli cwsg a gorfod mynd heb fwyd. 6Dangos hynny hefyd drwyʼn bywydau glân, ein dealltwriaeth oʼr gwirionedd, ein hamynedd gyda phobl, aʼn caredigrwydd at bobl; a thrwy nerth yr Ysbryd Glân ar waith ynon ni, aʼn cariad dwfn atoch chi. 7A hefyd drwy gyhoeddiʼr gwir yn ffyddlon, a gwneud hynny gydaʼr nerth mae Duwʼn ei roi – gydag arfau cyfiawnder, i ymosod ac amddiffyn. 8Dŷn ni weithiauʼn cael ein canmol, dro arall yn cael ein sarhau; mae pobl yn dweud pethau drwg a da amdanon ni. Dŷn niʼn cael ein galwʼn dwyllwyr er ein bod niʼn dweud y gwir. 9Mae rhaiʼn dweud ein bod niʼn neb, ac eto mae pawb yn gwybod amdanon ni! Dŷn niʼn agos at farw, ac etoʼn dal yn fyw: wediʼn chwipio, maeʼn wir, ond heb ein lladd. 10Yn dal i orfoleddu er gwaethaʼr holl dristwch. Yn gwybod ein bod niʼn dlawd, ac etoʼn rhannu cyfoeth ysbrydol gyda llawer. Heb ddim, ac eto mae gynnon ni bopeth sydd ei angen!
11Ffrindiau annwyl Corinth, dŷn ni wedi bod yn gwbl agored gyda chi. Dŷn ni wedi rhoiʼn hunain yn llwyr i chi! 12Dŷn ni ddim yn dal ein cariad yn ôl, chi syʼn dal yn ôl. 13Dewch yn eich blaen – dw iʼn siarad â chi fel fy mhlant i – derbyniwch ni.
Dych chiʼn wahanol i bobl sydd ddim yn credu
14Dych chiʼn wahanol i bobl sydd ddim yn credu – felly peidiwch ymuno â nhw. Ydy cyfiawnder a drygioniʼn gallu bod yn bartneriaid? Neu olau a thywyllwch? 15Ydyʼr Meseia aʼr diafol6:15 diafol: Groeg, Beliar – ffurf arall oʼr enw Hebraeg Belial syʼn golygu ‘drwg’ neu ‘diwerth’. Roedd llawer o ysgrifau Iddewig yn defnyddioʼr enw yma am y diafol. yn creu harmoni? Beth sydd gan rywun syʼn credu a rhywun sydd ddim yn credu yn gyffredin? 16Ydyʼn iawn rhoi eilun-dduwiau yn nheml Duw? Na! A dŷn ni gydaʼn gilydd yn deml iʼr Duw byw. Fel mae Duw ei hun wedi dweud:
“Bydda iʼn byw gyda nhw ac yn symud yn eu plith nhw;
fi fydd eu Duw nhw a nhw fydd fy mhobl i.”6:16 Lefiticus 26:12 (cf. Jeremeia 32:39 ac Eseciel 37:27)
17Felly maeʼr Arglwydd yn dweud,
“Dewch allan oʼu canol nhw
a bod yn wahanol.”
“Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan,
a chewch eich derbyn gen i.”6:17 Eseia 52:11 a chyfeiriad at Eseciel 20:41
18“Bydda iʼn Dad i chi,
a byddwch chi yn feibion a merched i mi,”6:18 cyfeiriad at 2 Samuel 7:14 ac Eseia 43:6
meddaiʼr Arglwydd Hollalluog.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015