Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

1 Brenhinoedd 4

Swyddogion Solomon

1Roedd Solomon yn frenin ar Israel gyfan.

2Dyma’i swyddogion:

Asareia fab Sadoc oedd yr offeiriad.

3Elichoreff ac Achïa, meibion Shisha, oedd ei ysgrifenyddion.

Jehosaffat fab Achilwd oedd y cofnodydd swyddogol.

4Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth y fyddin,

a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid.

5Asareia fab Nathan oedd pennaeth swyddogion y rhanbarthau;

yna Sabwd fab Nathan yn offeiriad ac yn gynghorwr y brenin.

6Achishar oedd yn rhedeg y palas a gofalu am holl eiddo’r brenin,

ac Adoniram fab Afda oedd swyddog y gweithlu gorfodol.

7Yna roedd gan Solomon ddeuddeg swyddog rhanbarthol dros wahanol ardaloedd yn Israel. Roedden nhw’n gyfrifol am ddarparu bwyd i’r brenin a’i lys – pob un yn gyfrifol am un mis y flwyddyn. 8Dyma’u henwau nhw:

Ben-chŵr: ar fryniau Effraim;

9Ben-decar: yn Macats, Shaalfîm, Beth-shemesh ac Elon-beth-chanan;

10Ben-chesed: yn Arwboth (roedd ei ardal e’n cynnwys Socho a holl ardal Cheffer);

11Ben-abinadab: yn Naffath-dor i gyd (roedd e wedi priodi Taffath, merch Solomon);

12Baana fab Achilwd: yn Taanach, Megido a’r rhan o Beth-shean sydd wrth ymyl Sarethan, o dan Jesreel. Roedd ei ardal yn mynd o Beth-shean hyd at Abel-mechola a’r tu hwnt i Iocmeam;

13Ben-geber: yn Ramoth-gilead. Roedd ei ardal e’n cynnwys gwersylloedd Jair mab Manasse, yn Gilead, ac ardal Argob yn Bashan oedd yn cynnwys chwe deg o drefi mawr, pob un gyda waliau cadarn a barrau pres ar eu giatiau;

14Achinadab fab Ido: yn Machanaîm;

15Achimaäts: yn Nafftali (fe wnaeth briodi Basemath, merch Solomon);

16Baana fab Chwshai: yn Asher ac yn Aloth;

17Jehosaffat fab Parŵach: yn Issachar;

18Shimei fab Ela: yn Benjamin;

19a Geber fab Wri: yn ardal Gilead (sef y wlad oedd yn perthyn ar un adeg i Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Bashan). Fe oedd yr unig swyddog yn y rhanbarth hwnnw i gyd.

20Roedd poblogaeth fawr yn Jwda ac Israel, roedd pobl fel y tywod ar lan y môr, ond roedd ganddyn nhw ddigon i’w fwyta a’i yfed ac roedden nhw’n hapus.

Llwyddiant Solomon

21Roedd Solomon yn llywodraethu ar yr holl ardaloedd o afon Ewffrates i wlad y Philistiaid ac i lawr at y ffin gyda’r Aifft. Roedd y teyrnasoedd yma i gyd yn talu trethi iddo, ac yn gwasanaethu Solomon ar hyd ei oes.

22Dyma beth oedd ei angen ar lys Solomon bob dydd:

– tri deg mesur o’r blawd gorau

– chwe deg mesur o flawd cyffredin,

23– deg o loi wedi’u pesgi,

– dau ddeg o loi oedd allan ar y borfa,

– cant o ddefaid.

Roedd hyn heb sôn am y ceirw, gaseliaid, iyrchod a gwahanol fathau o ffowls. 24Achos roedd y llys brenhinol mor fawr – roedd yn rheoli’r holl ardaloedd i’r gorllewin o Tiffsa ar lan afon Ewffrates i lawr i Gasa, ac roedd heddwch rhyngddo a’r gwledydd o’i gwmpas. 25Pan oedd Solomon yn fyw, roedd pawb yn Jwda ac Israel yn teimlo’n saff. Roedd gan bawb, o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, gartref a thir i allu mwynhau cynnyrch eu gwinwydd a’u coed ffigys. 26Roedd gan Solomon hefyd stablau i ddal 40,000 o geffylau cerbyd, ac roedd ganddo 12,000 o farchogion.

Notes for verses 23–261 entry

Text notes

  • 1 Kings 4:25 Dan … Beersheba Roedd Dan wrth droed Mynydd Hermon yn y gogledd ar y llwybr masnach i Damascus. Roedd Beersheba 23 milltir i’r de-orllewin o Hebron ar y prif lwybr masnach i’r Aifft. View in passage

27Roedd y swyddogion rhanbarthol yn darparu bwyd ar gyfer y Brenin Solomon a phawb yn ei lys. Roedd pob un yn gyfrifol am fis, ac yn gwneud yn siŵr nad oedd y llys yn brin o ddim. 28Roedd gan bob un hefyd stablau penodol i fynd â haidd a gwellt iddyn nhw i’w roi i’r ceffylau a’r meirch.

Doethineb Solomon

29Roedd Duw wedi rhoi doethineb a deall eithriadol i Solomon. Roedd ei wybodaeth yn ddiddiwedd, fel y tywod ar lan y môr. 30Roedd yn fwy doeth nag unrhyw un o ddynion doeth y dwyrain a’r Aifft. 31Doedd neb doethach nag e. Roedd yn ddoethach nag Ethan yr Esrachiad, Heman hefyd, a Calcol a Darda, meibion Machol. Roedd yn enwog drwy’r gwledydd o’i gwmpas i gyd. 32Roedd wedi llunio tair mil o ddiarhebion a chyfansoddi mil a phump o ganeuon. 33Roedd yn gallu siarad am blanhigion, o’r coed cedrwydd mawr yn Libanus i’r isop sy’n tyfu ar waliau. Roedd hefyd yn gallu sôn am anifeiliaid, adar, ymlusgiaid a phryfed a physgod. 34Roedd brenhinoedd y gwledydd i gyd yn anfon pobl at Solomon i wrando ar ei ddoethineb.