No themes applied yet
Gair y bywyd
1Yr un sydd wedi bodoli oʼr dechrau cyntaf – dŷn ni wediʼi glywed e aʼi weld e. Do, dŷn ni wedi edrych arno âʼn llygaid ein hunain, aʼi gyffwrdd âʼn dwylo! Gair y bywyd! 2Daeth y bywyd ei hun iʼr golwg, a dŷn ni wediʼi weld e. Gallwn dystio iddo, a dyma dŷn niʼn ei gyhoeddi i chi – y bywyd tragwyddol oedd gydaʼr Tad ac sydd wedi dangos ei hun i ni. 3Ydyn, dŷn niʼn sôn am rywbeth dŷn ni wediʼi weld aʼi glywed. Dŷn ni eisiau i chithau brofiʼr wefr gyda ni o rannu yn y berthynas yma gyda Duw y Tad, a gydaʼi Fab, Iesu y Meseia. 4Dŷn niʼn ysgrifennu hyn er mwyn i ni i gyd fod yn wirioneddol hapus.
Byw yn y golau
5Dymaʼr neges mae e wediʼi rhoi i ni, a dyma ni nawr yn ei rhannu gyda chi: Golau ydy Duw; does dim tywyllwch o gwbl ynddo. 6Felly, os ydyn niʼn honni fod gynnon ni berthynas gyda Duw ac etoʼn dal i fyw fel petaen ni yn y tywyllwch, maeʼn amlwg ein bod niʼn dweud celwydd. Dŷn ni ddim yn byw yn ffyddlon iʼr gwir. 7Ond os ydyn niʼn byw yn y golau, fel mae Duw yn y golau, dŷn niʼn perthyn iʼn gilydd, ac mae gwaed Iesu ei Fab yn ein glanhau ni o bob pechod.
8Os ydyn niʼn honni ein bod ni heb bechod, dŷn niʼn twylloʼn hunain a dydyʼr gwir ddim ynon ni. 9Ond os gwnawn ni gyffesu ein pechodau, bydd eʼn maddau i ni am ein pechodau ac yn ein glanhau ni oddi wrth bopeth drwg, am ei fod eʼn cadw ei air ac yn gwneud beth syʼn iawn. 10Os ydyn niʼn honni ein bod ni erioed wedi pechu, dŷn niʼn gwneud Duw yn gelwyddog, ac maeʼn amlwg bod ei neges eʼn cael dim lle yn ein bywydau ni.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015