Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

1 Cronicl 25

Trefnu y Cerddorion

1Dyma Dafydd a swyddogion y fyddin yn dewis rhai o ddisgynyddion Asaff, Heman a Iedwthwn i broffwydo i gyfeiliant telynau, nablau a symbalau. Dyma’r dynion gafodd y gwaith yma:

2Meibion Asaff: Saccwr, Joseff, Nethaneia, ac Asarela, dan arweiniad eu tad Asaff, oedd yn proffwydo pan oedd y brenin yn dweud.

3Meibion Iedwthwn: Gedaleia, Seri, Ishaeia, Chashafeia, a Matitheia – chwech, dan arweiniad eu tad Iedwthwn. Roedd yn proffwydo wrth ganu’r delyn, yn diolch ac yn moli’r ARGLWYDD.

Notes for verse 31 entry

Text notes

  • 1 Chronicles 25:3 Pump enw sydd yn y rhestr. Mae un llawysgrif Hebraeg, a’r LXX yn ychwanegu’r enw Shimei ar ôl Ishaia (gw. adn. 17). View in passage

4Meibion Heman: Bwcïa, Mataneia, Wssiel, Shefwel, Ierimoth, Chananeia, Chanani, Eliatha, Gidalti, Romamti-Eser, Ioshbecashâ, Maloti, Hothir, a Machsiôt. 5Roedd y rhain i gyd yn feibion i Heman, proffwyd y brenin. Roedd Duw wedi addo’r meibion yma iddo i’w wneud yn ddyn oedd yn uchel ei barch. Roedd Duw wedi rhoi un deg pedwar o feibion a thair merch iddo.

6Roedd tadau y rhain yn eu harolygu. Cerddorion teml yr ARGLWYDD oedden nhw, yn canu symbalau, nablau a thelynau yn yr addoliad. Y brenin ei hun oedd yn arolygu Asaff, Iedwthwn a Heman. 7Roedd 288 ohonyn nhw yn canu o flaen yr ARGLWYDD; i gyd yn gerddorion dawnus a phrofiadol.

8Dyma nhw’n defnyddio coelbren i benderfynu pryd roedden nhw ar ddyletswydd. Doedd oedran ddim yn cael ei ystyried, na p’run ai oedden nhw’n athrawon neu’n ddisgyblion. 9-31A dyma’r drefn y cawson nhw eu dewis:

1.Joseff o glan Asaff, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
2.Gedaleia, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
3.Saccwr, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
4.Itsri, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
5.Nethaneia, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
6.Bwcïa, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
7.Iesarela, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
8.Ieshaia, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
9.Mataneia, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
10.Shimei, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
11.Wssiel, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
12.Chashafeia, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
13.Shwfa-el, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
14.Matitheia, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
15.Ieremoth, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
16.Chananeia, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
17.Ioshbecashâ, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
18.Chanani, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
19.Maloti, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
20.Eliatha, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
21.Hothir, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
22.Gidalti, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
23.Machsiôt, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
24.Romamti-Eser, ei feibion ac aelodau o’i deulu– 12
Notes for verses 9–314 entries

Text notes

  • 1 Chronicles 25:9–31 ei feibion ac aelodau o’i deulu – 12 Mae’n debyg fod y rhif yma wedi’i adael allan o’r Hebraeg yn ddamweiniol (gw. gweddill y rhestr, sef adn. 10-31). Hebddo 276 ydy’r cyfanswm, nid 288 fel mae adn. 7 yn dweud. View in passage

  • 1 Chronicles 25:9–31 25:11 Itsri Ffurf arall ar yr enw Tseri (adn. 3). View in passage

  • 1 Chronicles 25:9–31 25:14 Iesarela Ffurf arall ar yr enw Asarela (adn. 2). View in passage

  • 1 Chronicles 25:9–31 25:18 Hebraeg, “Asarel” sy’n ffurf arall ar yr enw Wssiel (gw. 1 Cronicl 25:4). View in passage