information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Sechareia 9

Barn ar y Cenhedloedd

1Oracl. Gair yr ARGLWYDD yn nhir Hadrach

ac yn Namascus, ei orffwysfa.

Yn wir, eiddo'r ARGLWYDD yw dinasoedd Aram,

fel holl lwythau Israel;

2hefyd Hamath, sy'n terfynu arni,

a Tyrus a Sidon, er eu bod yn ddoeth iawn.

3Cododd Tyrus dŵr iddi ei hun;

pentyrrodd arian fel llwch,

ac aur fel llaid heol.

4Ond wele, y mae'r ARGLWYDD yn cymryd ei heiddo

ac yn difetha ei grym ar y môr;

ac ysir hithau yn y tân.

Notes for verses 1–41 entry

Text notes

5Bydd Ascalon yn gweld ac yn ofni,

Gasa hefyd, a bydd yn gwingo gan ofid,

ac Ecron, oherwydd drysir ei gobaith;

derfydd am frenin yn Gasa,

a bydd Ascalon heb drigolion;

6pobl gymysgryw fydd yn trigo yn Asdod,

a thorraf ymaith falchder y Philistiad.

7Tynnaf ymaith ei waed o'i enau,

a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd;

bydd yntau'n weddill i'n Duw ni,

ac fel tylwyth yn Jwda;

a bydd Ecron fel y Jebusiaid.

8Yna gwersyllaf i wylio fy nhŷ,

fel na chaiff neb fynd i mewn nac allan.

Ni ddaw gorthrymydd atynt mwyach,

oherwydd yr wyf yn gwylio'n awr â'm llygaid fy hun.

Brenin i Seion

9“Llawenha'n fawr, ferch Seion;

bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem.

Wele dy frenin yn dod atat

â buddugoliaeth a gwaredigaeth,

yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn,

ar ebol, llwdn asen.

10Tyr ymaith y cerbyd o Effraim

a'r meirch o Jerwsalem;

a thorrir ymaith y bwa rhyfel.

Bydd yn siarad heddwch â'r cenhedloedd;

bydd ei lywodraeth o fôr i fôr,

o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.

Notes for verses 9–101 entry

Text notes

11“Amdanat ti, oherwydd gwaed y cyfamod rhyngom,

gollyngaf dy garcharorion yn rhydd o'r pydew di-ddŵr.

12Dychwelwch i'ch amddiffynfa, chwi garcharorion hyderus;

heddiw yr wyf yn cyhoeddi i chwi adferiad dauddyblyg.

13Yr wyf wedi plygu fy mwa, Jwda,

ac wedi gosod fy saeth ynddo, Effraim;

codaf dy feibion, Seion,

yn erbyn meibion Groeg,

a gwnaf di yn gleddyf rhyfelwr.”

Notes for verses 11–131 entry

Text notes

Duw'n Ymddangos

14Bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos uwch eu pennau,

a'i saeth yn fflachio fel mellten;

Bydd yr Arglwydd DDUW yn rhoi bloedd â'r utgorn

ac yn mynd allan yng nghorwyntoedd y de.

15Bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn amddiffyn iddynt;

llwyddant, sathrant y cerrig tafl,

byddant yn derfysglyd feddw fel gan win,

wedi eu trochi fel cyrn allor.

16Y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn eu gwaredu;

bydd ei bobl fel praidd,

fel gemau coron yn disgleirio dros ei dir.

17Mor dda ac mor brydferth fydd!

Bydd ŷd yn nerth i'r llanciau,

a gwin i'r morynion.

Notes for verses 14–172 entries

Text notes