information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Sechareia 6

Gweledigaeth y Pedwar Cerbyd

1Edrychais i fyny eto, a gweld pedwar cerbyd yn dod allan rhwng dau fynydd, a'r rheini'n fynyddoedd o bres. 2Wrth y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion, wrth yr ail, feirch duon, 3wrth y trydydd, feirch gwynion, ac wrth y pedwerydd, feirch brithion. 4Yna gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth yw'r rhain, f'arglwydd?” 5Ac atebodd yr angel, “Y rhain yw pedwar gwynt y nefoedd sy'n mynd allan o'u safle gerbron Arglwydd yr holl ddaear. 6Y mae'r cerbyd gyda cheffylau duon yn mynd i dir y gogledd, yr un gyda'r rhai gwynion i'r gorllewin, yr un gyda'r rhai brithion i'r de.” 7Daeth y meirch allan yn barod i dramwyo'r ddaear. A dywedodd, “Ewch i dramwyo'r ddaear.” A gwnaethant hynny. 8Yna galwodd arnaf a dweud, “Edrych fel y mae'r rhai sy'n mynd i dir y gogledd wedi rhoi gorffwys i'm hysbryd yn nhir y gogledd.”

Notes for verses 1–81 entry

Text notes

Gorchymyn i Goroni Josua

9Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 10“Cymer arian ac aur oddi ar Haldai, Tobeia a Jedaia, caethgludion a ddaeth o Fabilon, a dos di y dydd hwnnw i dŷ Joseia fab Seffaneia. 11Gwna goron o'r arian a'r aur, a'i rhoi ar ben Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, 12a dweud wrtho, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Wele'r dyn a'i enw Blaguryn, oherwydd blagura o'i gyff ac adeiladu teml yr ARGLWYDD. 13Ef fydd yn adeiladu teml yr ARGLWYDD ac yn dwyn anrhydedd ac yn eistedd i deyrnasu ar ei orsedd; bydd offeiriad yn ymyl ei orsedd a chytundeb perffaith rhyngddynt.’ 14A bydd y goron yn nheml yr ARGLWYDD yn goffâd i Haldai, Tobeia, Jedaia a Joseia fab Seffaneia. 15Daw rhai o bell i adeiladu teml yr ARGLWYDD, a chewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd i atoch. A bydd hyn os gwrandewch yn astud ar lais yr ARGLWYDD eich Duw.”

Notes for verses 9–151 entry

Text notes