Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Caniad Solomon 1

Y Caniad Cyntaf

1Cân y caniadau, eiddo Solomon.

2Cusana fi â chusanau dy wefusau,

oherwydd y mae dy gariad yn well na gwin,

3ac arogl dy bersawr yn hyfryd,

a'th enw fel persawr wedi ei wasgaru;

dyna pam y mae merched yn dy garu.

4Tyn fi ar dy ôl, gad inni redeg gyda'n gilydd;

cymer fi i'th ystafell, O frenin.

Notes for verses 2–42 entries

Text notes

  • Song of Songs 1:2 Tebygol. Hebraeg, Y mae'n fy nghusanu â chusanau ei. View in passage

  • Song of Songs 1:4 Felly Syrieg. Hebraeg, cymerodd y brenin fi i'w ystafell. View in passage

Gad inni lawenhau ac ymhyfrydu ynot,

a chanmol dy gariad yn fwy na gwin;

mor briodol yw iddynt dy garu!

5O ferched Jerwsalem,

er fy mod yn dywyll fy lliw

fel pebyll Cedar neu lenni pebyll Solomon,

yr wyf yn brydferth.

6Peidiwch â rhythu arnaf am fy mod yn dywyll fy lliw,

oherwydd i'r haul fy llosgi.

Bu meibion fy mam yn gas wrthyf,

a gwneud imi wylio'r gwinllannoedd;

ond ni wyliais fy ngwinllan fy hun.

7Fy nghariad, dywed wrthyf

ymhle'r wyt yn bugeilio'r praidd,

ac yn gwneud iddynt orffwys ganol dydd.

Pam y byddaf fel un yn crwydro

wrth ymyl praidd dy gyfeillion?

Notes for verses 5–71 entry

Text notes

8O ti, y decaf o ferched,

os nad wyt yn gwybod,

yna dilyn lwybrau'r defaid,

a bugeilia dy fynnod

gerllaw pebyll y bugeiliaid.

9F'anwylyd, yr wyf yn dy gyffelybu

i feirch cerbydau Pharo.

10Mor brydferth yw dy ruddiau rhwng y plethi,

a'th wddf gan emau.

11Fe wnawn iti gadwynau aur

gydag addurniadau arian.

12Pan yw'r brenin ar ei wely,

y mae fy nard yn gwasgaru arogl.

13Y mae fy nghariad fel clwstwr o fyrr

yn gorffwys rhwng fy mronnau.

14Y mae fy nghariad fel tusw o flodau henna

o winllannoedd En-gedi.

15O mor brydferth wyt, f'anwylyd.

O mor brydferth,

a'th lygaid fel colomennod!

16Mor brydferth wyt, fy nghariad.

O mor ddymunol!

Y mae ein gwely wedi ei orchuddio â dail.

17Y cedrwydd yw trawstiau ein tŷ

a'r ffynidwydd yw ei ddistiau.