Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 70

I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd, er coffadwriaeth.

1Bydd fodlon i'm gwaredu, O Dduw;

O ARGLWYDD, brysia i'm cynorthwyo.

2Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd,

ar y rhai sy'n ceisio fy mywyd;

bydded i'r rhai sy'n cael pleser o wneud drwg imi

gael eu troi yn eu holau mewn dryswch.

3Bydded i'r rhai sy'n gweiddi, “Aha! Aha!” arnaf

droi yn eu holau o achos eu gwaradwydd.

Notes for verses 1–32 entries

Text notes

4Ond bydded i bawb sy'n dy geisio di

lawenhau a gorfoleddu ynot;

bydded i'r rhai sy'n caru dy iachawdwriaeth

ddweud yn wastad, “Mawr yw Duw.”

5Un tlawd ac anghenus wyf fi;

O Dduw, brysia ataf.

Ti yw fy nghymorth a'm gwaredydd;

O ARGLWYDD, paid ag oedi.