Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 45

I'r Cyfarwyddwr: ar Lilïau. I feibion Cora. Mascîl. Cân Serch.

1Symbylwyd fy nghalon gan neges dda;

adroddaf fy nghân am y brenin;

y mae fy nhafod fel pin ysgrifennydd buan.

2Yr wyt yn decach na phawb;

tywalltwyd gras ar dy wefusau

am i Dduw dy fendithio am byth.

3Gwisg dy gleddyf ar dy glun, O ryfelwr;

â mawredd a gogoniant addurna dy forddwyd.

4Marchoga o blaid gwirionedd, ac o achos cyfiawnder,

a bydded i'th ddeheulaw ddysgu iti bethau ofnadwy.

5Y mae dy saethau'n llym yng nghalon gelynion y brenin;

syrth pobloedd odanat.

6Y mae dy orsedd fel gorsedd Duw, yn dragwyddol,

a'th deyrnwialen yn wialen cyfiawnder.

7Ceraist gyfiawnder a chasáu drygioni;

am hynny bu i Dduw, dy Dduw di, dy eneinio

ag olew llawenydd uwchlaw dy gyfoedion.

8Y mae dy ddillad i gyd yn fyrr, aloes a chasia,

ac offerynnau llinynnol o balasau ifori yn dy ddifyrru.

9Y mae tywysogesau ymhlith merched dy lys;

saif y frenhines ar dy ddeheulaw, mewn aur Offir.

Notes for verses 2–92 entries

Text notes

  • Psalms 45:4 Tebygol. Hebraeg, O ryfelwr, â mawredd a gogoniant. Mewn gogoniant marchoga'n fuddugoliaethus. View in passage

  • Psalms 45:6 Neu, Y mae dy orsedd di, O Dduw. View in passage

10Gwrando di, ferch, rho sylw a gogwydda dy glust:

anghofia dy bobl dy hun a thŷ dy dad;

11yna bydd y brenin yn chwenychu dy brydferthwch,

oherwydd ef yw dy arglwydd.

12Ymostwng iddo ag anrhegion, O ferch Tyrus,

a bydd cyfoethogion y bobl yn ceisio dy ffafr.

13Cwbl ogoneddus yw merch y brenin,

cwrel wedi ei osod mewn aur sydd ar ei gwisg,

14ac mewn brodwaith yr arweinir hi at y brenin;

Ar ei hôl daw ei chyfeillesau, y morynion;

15dônt atat yn llawen a hapus,

dônt i mewn i balas y brenin.

Notes for verses 10–152 entries

Text notes

16Yn lle dy dadau daw dy feibion,

a gwnei hwy'n dywysogion dros yr holl ddaear.

17Mynegaf dy glod dros y cenedlaethau,

nes bod pobl yn dy ganmol hyd byth.