Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 134

Cân Esgyniad.

1Dewch, bendithiwch yr ARGLWYDD,

holl weision yr ARGLWYDD,

sy'n sefyll liw nos yn nhŷ'r ARGLWYDD.

2Codwch eich dwylo yn y cysegr,

a bendithiwch yr ARGLWYDD.

3Bydded i'r ARGLWYDD eich bendithio o Seion—

creawdwr nefoedd a daear!