Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 131

Cân Esgyniad. I Ddafydd.

1O ARGLWYDD, nid yw fy nghalon yn drahaus,

na'm llygaid yn falch;

nid wyf yn ymboeni am bethau rhy fawr,

nac am bethau rhy ryfeddol i mi.

2Ond yr wyf wedi tawelu a distewi fy enaid,

fel plentyn ar fron ei fam;

fel plentyn y mae fy enaid.

3O Israel, gobeithia yn yr ARGLWYDD

yn awr a hyd byth.