Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 113

1Molwch yr ARGLWYDD.

Molwch, chwi weision yr ARGLWYDD,

molwch enw'r ARGLWYDD.

2Bendigedig fyddo enw'r ARGLWYDD

o hyn allan a hyd byth.

3O godiad haul hyd ei fachlud

bydded enw'r ARGLWYDD yn foliannus.

4Uchel yw'r ARGLWYDD goruwch yr holl genhedloedd,

a'i ogoniant goruwch y nefoedd.

5Pwy sydd fel yr ARGLWYDD ein Duw

yn y nefoedd neu ar y ddaear,

6yn gosod ei orseddfainc yn uchel

a hefyd yn ymostwng i edrych yn isel?

7Y mae ef yn codi'r gwan o'r llwch

ac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen,

8i'w gosod gyda phendefigion,

gyda phendefigion ei bobl.

9Rhydd deulu i'r wraig ddi-blant;

daw hi'n fam lawen i blant.

Molwch yr ARGLWYDD.