Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 100

Salm. I ddiolch.

1Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear.

2Addolwch yr ARGLWYDD mewn llawenydd,

dewch o'i flaen â chân.

3Gwybyddwch mai'r ARGLWYDD sydd Dduw;

ef a'n gwnaeth, a'i eiddo ef ydym,

ei bobl a defaid ei borfa.

4Dewch i mewn i'w byrth â diolch,

ac i'w gynteddau â mawl.

Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw.

5Oherwydd da yw'r ARGLWYDD;

y mae ei gariad hyd byth,

a'i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.