information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Obadeia 1

Yr ARGLWYDD yn Cosbi Edom

1Gweledigaeth Obadeia.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW am Edom

(clywsom genadwri gan yr ARGLWYDD;

anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd:

“Codwch! Gadewch inni fynd i frwydr yn eu herbyn”):

2“Wele, gwnaf di'n fychan ymysg y cenhedloedd,

ac fe'th lwyr ddirmygir.

3Twyllwyd di gan dy galon falch,

ti sy'n byw yn agennau'r graig,

a'th drigfan yn uchel;

dywedi yn dy galon,

‘Pwy a'm tyn i'r llawr?’

4Er iti esgyn cyn uched â'r eryr,

a gosod dy nyth ymysg y sêr,

fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno,” medd yr ARGLWYDD.

Notes for verses 1–41 entry

Text notes

5“Pe dôi lladron atat,

neu ysbeilwyr liw nos

(O fel y'th ddinistriwyd!),

onid digon iddynt eu hunain yn unig a ysbeilient?

Pe dôi cynaeafwyr grawnwin atat,

oni adawent loffion?

6O fel yr anrheithiwyd Esau,

ac yr ysbeiliwyd ei drysorau!

7Y mae dy holl gynghreiriaid wedi dy dwyllo,

y maent wedi dy yrru dros y terfyn;

y mae dy gyfeillion wedi dy drechu,

dy wahoddedigion wedi gosod magl i ti—

nid oes deall ar hyn.”

8Ar y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD,

“oni ddileaf ddoethineb o Edom,

a deall o fynydd Esau?

9Y mae dy gedyrn mewn braw, O Teman,

fel y torrir ymaith bob un o fynydd Esau.

10Am y lladdfa, ac am y trais yn erbyn dy frawd Jacob,

fe'th orchuddir gan warth,

ac fe'th dorrir ymaith am byth.”

Notes for verses 5–101 entry

Text notes

  • Obadiah 1:10 Cymh. Fersiynau. Hebraeg, am y lladdfa yn adn. 9. View in passage

11“Ar y dydd y sefaist draw,

ar y dydd y dygodd estroniaid ei gyfoeth,

ac y daeth dieithriaid trwy ei byrth

a bwrw coelbren am Jerwsalem,

yr oeddit tithau fel un ohonynt.

12Ni ddylit ymfalchïo ar ddydd dy frawd,

dydd ei drallod.

Ni ddylit lawenhau dros blant Jwda

ar ddydd eu dinistr;

ni ddylit wneud sbort

ar ddydd gofid.

13Ni ddylit fynd i borth fy mhobl

ar ddydd eu hadfyd;

ni ddylit ymfalchïo yn eu dinistr

ar ddydd eu hadfyd;

ni ddylit ymestyn am eu heiddo

ar ddydd eu hadfyd.

14Ni ddylit sefyll ar y groesffordd

i ddifa eu ffoaduriaid;

ni ddylit drosglwyddo'r rhai a ddihangodd

ar ddydd gofid.”

Duw yn Barnu'r Cenhedloedd

15“Y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;

daw ar yr holl genhedloedd.

Fel y gwnaethost ti y gwneir i ti;

fe ddychwel dy weithredoedd ar dy ben dy hun.

16Fel yr yfaist ar fy mynydd sanctaidd,

fe yf yr holl genhedloedd yn ddi-baid;

yfant a llowciant,

a mynd yn anymwybodol.”

Buddugoliaeth Israel

17“Ond ym Mynydd Seion bydd rhai dihangol

a fydd yn sanctaidd;

meddianna tŷ Jacob ei eiddo'i hun.

18A bydd tŷ Jacob yn dân,

tŷ Joseff yn fflam,

a thŷ Esau yn gynnud;

fe'i cyneuant a'i losgi,

ac ni fydd gweddill o dŷ Esau,

oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD.

19Bydd y Negef yn meddiannu mynydd Esau,

a'r Seffela yn meddiannu gwlad y Philistiaid;

byddant yn meddiannu tir Effraim a thir Samaria,

a bydd Benjamin yn meddiannu Gilead.

20Bydd pobl Israel, caethgludion y fyddin,

yn meddiannu Canaan hyd Sareffath;

a chaethgludion Jerwsalem yn Seffarad

yn meddiannu dinasoedd y Negef.

21Bydd gwaredwyr yn mynd i fyny i Fynydd Seion,

i reoli mynydd Esau;

a bydd y frenhiniaeth yn eiddo i'r ARGLWYDD.”