Nehemeia 5
Gorthrymu'r Tlodion
1Dechreuodd y bobl gyffredin a'u gwragedd gwyno'n enbyd yn erbyn eu cyd-Iddewon. 2Yr oedd rhai yn dweud, “Yr ydym yn gorfod gwystlo ein meibion a'n merched i gael ŷd er mwyn bwyta a byw.” 3Yr oedd eraill yn dweud, “Yr ydym yn gorfod gwystlo ein meysydd a'n gwinllannoedd a'n tai er mwyn prynu ŷd yn ystod y newyn.” 4Dywedai eraill, “Yr ydym wedi benthyca arian ar ein meysydd a'n gwinllannoedd i dalu treth y brenin. 5Yr ydym o'r un cnawd â'n tylwyth, ac y mae ein plant ni fel eu plant hwy; eto, yr ydym ni'n gorfod gwneud caethweision o'n meibion a'n merched. Y mae rhai o'n merched eisoes yn gaethion, ond ni allwn wneud dim, gan fod ein meysydd a'n gwinllannoedd ym meddiant eraill.”
Notes for verses 1–51 entry
Text notes
Nehemiah 5:2 Tebygol. Cymh. adn. 3. Hebraeg, llawer. View in passage
6Pan glywais eu cwyn a'r hyn yr oeddent yn ei ddweud, yr oeddwn yn ddig iawn. 7Yna, ar ôl ystyried y peth yn ofalus, ceryddais y pendefigion a'r swyddogion a dweud wrthynt, “Yr ydych yn mynnu llog gan eich cymrodyr.” Ceryddais hwy'n llym, 8a dweud, “Yr ydym ni, yn ôl ein gallu, wedi prynu ein cyd-Iddewon a werthwyd i'r cenhedloedd, ond yr ydych chwi'n gwerthu eich brodyr, a ninnau'n gorfod eu prynu'n ôl.” Yr oeddent yn ddistaw heb air i'w ddweud. 9Ac meddwn wrthynt, “Nid ydych yn ymddwyn yn iawn. Oni ddylech ofni ein Duw yn hytrach na gwaradwydd y cenhedloedd, ein gelynion? 10Yr wyf fi a'm brodyr a'm gweision yn rhoi arian ac ŷd ar fenthyg iddynt. Gadewch i ni roi terfyn ar y llogau hyn. 11Rhowch yn ôl iddynt ar unwaith eu meysydd, eu gwinllannoedd, eu gerddi olewydd a'u tai; a hefyd y ganfed ran yr ydych wedi ei chymryd ganddynt yn llog mewn arian, ŷd, gwin ac olew.” 12Dywedasant, “Fe'u rhoddwn yn ôl, ac ni ofynnwn iddynt am ragor; gwnawn fel yr wyt yn ei orchymyn.” Yna gelwais ar yr offeiriaid i wneud iddynt addunedu i gadw eu haddewid; 13ysgydwais fy mantell a dweud, “Fel hyn bydded i Dduw ysgwyd o'i dŷ ac o'i eiddo bob un sy'n gwrthod cadw'r addewid hon; bydded wedi ei ysgwyd yn wag.” A dywedodd yr holl gynulleidfa, “Amen”, a moliannu'r ARGLWYDD. Ac fe gadwodd y bobl at yr addewid hon.
Notes for verses 6–131 entry
Text notes
Nehemiah 5:7 Felly Syrieg. Hebraeg, tyrfa fawr. View in passage
Anhunanoldeb Nehemeia
14Ac yn wir, o'r dydd y penodwyd fi yn llywodraethwr yng ngwlad Jwda, o'r ugeinfed hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i'r Brenin Artaxerxes, sef cyfnod o ddeuddeng mlynedd, ni fwyteais i na'm brodyr ddogn bwyd y llywodraethwr. 15Bu'r llywodraethwyr blaenorol oedd o'm blaen i yn llawdrwm ar y bobl, ac yn cymryd ganddynt bob dydd fara a gwin gwerth deugain sicl o arian. Yr oedd eu gweision hefyd yn arglwyddiaethu ar y bobl. Ond ni wneuthum i ymddwyn fel hyn am fy mod yn ofni Duw. 16Atgyweiriais y mur hwn, er nad oeddwn berchen yr un cae, a daeth fy holl weision at ei gilydd yno ar gyfer y gwaith. 17Yr oedd cant a hanner o'r Iddewon a'r llywodraethwyr, yn ogystal â'r rhai a ddaeth atom oddi wrth y cenhedloedd o'n cwmpas, 18wrth fy mwrdd, fel bod ych, a chwech o'r defaid gorau, ac adar yn cael eu paratoi ar fy nghyfer bob dydd, a digon o win o bob math bob deg diwrnod; er hynny ni ofynnais am ddogn bwyd y llywodraethwr am ei bod yn galed ar y bobl. 19Fy Nuw, cofia er daioni i mi y cwbl a wneuthum i'r bobl yma.