information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Micha 1

1Gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Micha o Moreseth yn nyddiau Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda. Dyma'i weledigaethau am Samaria a Jerwsalem.

Barn ar Samaria a Jerwsalem

2Gwrandewch, bobloedd, bawb ohonoch;

clyw dithau, ddaear, a phopeth ynddi.

Y mae'r Arglwydd DDUW, yr Arglwydd o'i deml sanctaidd,

yn dyst yn eich erbyn.

3Wele'r ARGLWYDD yn dod allan o'i drigfan,

yn dod i lawr ac yn troedio ar uchelderau'r ddaear.

4Y mae'r mynyddoedd yn toddi dano,

a'r dyffrynnoedd yn hollti'n agored,

fel cwyr o flaen tân,

fel dyfroedd wedi eu tywallt ar oriwaered.

5Am drosedd Jacob y mae hyn oll,

ac am bechod tŷ Israel.

Beth yw trosedd Jacob? Onid Samaria?

Beth yw pechod tŷ Jwda? Onid Jerwsalem?

6“Am hynny, gwnaf Samaria yn garnedd ar faes agored,

yn lle i blannu gwinwydd;

gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn,

a dinoethaf ei sylfeini.

7Malurir ei holl gerfddelwau,

llosgir ei holl enillion yn y tân,

a gwnaf ddifrod o'i delwau;

o enillion puteindra y casglodd hwy,

ac yn dâl puteindra y dychwelant.”

8Am hyn y galaraf ac yr wylaf,

a mynd yn noeth a heb esgidiau;

galarnadaf fel y siacal,

a llefain fel tylluanod yr anialwch,

9am nad oes meddyginiaeth i'w chlwyf;

oherwydd daeth hyd at Jwda,

a chyrraedd at borth fy mhobl,

hyd at Jerwsalem.

Notes for verses 2–91 entry

Text notes

Y Gelyn yn Nesáu

10Peidiwch â chyhoeddi'r peth yn Gath,

a pheidiwch ag wylo yn Baca;

yn Beth-affra ymdreiglwch yn y llwch.

11Ewch ymlaen, drigolion Saffir;

onid mewn noethni a chywilydd

yr â trigolion Saanan allan?

Galar sydd yn Beth-esel,

a pheidiodd â bod yn gynhaliaeth i chwi.

12Mewn gwewyr am newydd da y mae trigolion Maroth,

oherwydd i ddrygioni oddi wrth yr ARGLWYDD

ddod hyd at borth Jerwsalem.

13Harneisiwch y meirch wrth y cerbydau,

drigolion Lachis;

chwi oedd cychwyn pechod i ferch Seion,

ac ynoch chwi y caed troseddau Israel.

14Felly, rhodder anrheg ymadael i Moreseth-gath;

y mae Beth-achsib yn dwyllodrus i frenhinoedd Israel.

15Dygaf eto yr anrheithiwr at bobl Maresa,

a bydd gogoniant Israel yn mynd i Adulam.

16Eillia dy ben a gwna dy hun yn foel,

am y plant a hoffaist;

gwna dy hun yn foel fel eryr,

am iddynt fynd oddi wrthyt i gaethglud.

Notes for verses 10–162 entries

Text notes