information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Mathew 16

Ceisio Arwydd

Mc. 8:11–13; Lc. 12:54–56

1Daeth y Phariseaid a'r Sadwceaid ato, ac i roi prawf arno gofynasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef. 2Ond atebodd ef hwy, “Gyda'r nos fe ddywedwch, ‘Bydd yn dywydd teg, oherwydd y mae'r wybren yn goch.’ 3Ac yn y bore, ‘Bydd yn stormus heddiw, oherwydd y mae'r wybren yn goch ac yn gymylog.’ Gwyddoch sut i ddehongli golwg y ffurfafen, ond ni allwch ddehongli arwyddion yr amserau. 4Cenhedlaeth ddrygionus ac annuwiol sy'n ceisio arwydd, eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona.” A gadawodd hwy a mynd ymaith.

Notes for verses 1–41 entry

Text notes

  • Matthew 16:3 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan Gyda'r nos… amserau. View in passage

Surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid

Mc. 8:14–21

5Pan ddaeth y disgyblion i'r ochr draw yr oeddent wedi anghofio dod â bara. 6Meddai Iesu wrthynt, “Gwyliwch a gochelwch rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid.” 7Ac yr oeddent hwy'n trafod ymhlith ei gilydd gan ddweud, “Ni ddaethom â bara.” 8Deallodd Iesu a dywedodd, “Chwi o ychydig ffydd, pam yr ydych yn trafod ymhlith eich gilydd nad oes gennych fara? A ydych eto heb weld? 9Onid ydych yn cofio'r pum torth i'r pum mil a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny? 10Nac ychwaith y saith torth i'r pedair mil a pha sawl llond cawell a gymerasoch? 11Sut na welwch nad ynglŷn â bara y dywedais wrthych? Gochelwch, meddaf, rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid.” 12Yna y deallasant iddo lefaru nid am ochel rhag surdoes y torthau, ond rhag yr hyn a ddysgai'r Phariseaid a'r Sadwceaid.

Datganiad Pedr ynglŷn â Iesu

Mc. 8:27–30; Lc. 9:18–21

13Daeth Iesu i barthau Cesarea Philipi, a holodd ei ddisgyblion: “Pwy y mae pobl yn dweud yw Mab y Dyn?” 14Dywedasant hwythau, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, Jeremeia neu un o'r proffwydi.” 15“A chwithau,” meddai wrthynt, “pwy meddwch chwi ydwyf fi?” 16Atebodd Simon Pedr, “Ti yw'r Meseia, Mab y Duw byw.” 17Dywedodd Iesu wrtho, “Gwyn dy fyd, Simon fab Jona, oherwydd nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn iti ond fy Nhad, sydd yn y nefoedd. 18Ac rwyf fi'n dweud wrthyt mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, ac ni chaiff holl bwerau Hades y trechaf arni. 19Rhoddaf iti allweddau teyrnas nefoedd, a beth bynnag a waherddi ar y ddaear a waherddir yn y nefoedd, a beth bynnag a ganiatei ar y ddaear a ganiateir yn y nefoedd.” 20Yna gorchmynnodd i'w ddisgyblion beidio â dweud wrth neb mai ef oedd y Meseia.

Notes for verses 13–201 entry

Text notes

  • Matthew 16:13 Yn ôl darlleniad arall, ydwyf fi, Mab y Dyn. View in passage

Iesu'n Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad

Mc. 8:31—9:1; Lc. 9:22–27

21O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu ddangos i'w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fynd i Jerwsalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi. 22A chymerodd Pedr ef a dechrau ei geryddu gan ddweud, “Na ato Duw, Arglwydd. Ni chaiff hyn ddigwydd i ti.” 23Troes yntau, a dywedodd wrth Pedr, “Dos ymaith o'm golwg, Satan; maen tramgwydd ydwyt imi, oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol.” 24Yna dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i. 25Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i caiff. 26Pa elw a gaiff rhywun os ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Neu beth a rydd rhywun yn gyfnewid am ei fywyd? 27Oherwydd y mae Mab y Dyn ar ddyfod yng ngogoniant ei Dad gyda'i angylion, ac yna fe dâl i bob un yn ôl ei ymddygiad. 28Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld Mab y Dyn yn dyfod yn ei deyrnas.”