information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Malachi 4

Dyfodiad Dydd yr ARGLWYDD

1“Wele'r dydd yn dod, yn llosgi fel ffwrnais, pan fydd yr holl rai balch a'r holl wneuthurwyr drwg yn sofl; bydd y dydd hwn sy'n dod yn eu llosgi,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “heb adael iddynt na gwreiddyn na changen. 2Ond i chwi sy'n ofni fy enw fe gyfyd haul cyfiawnder â meddyginiaeth yn ei esgyll, ac fe ewch allan a llamu fel lloi wedi eu gollwng. 3Fe sathrwch y rhai drwg, oherwydd byddant fel lludw dan wadnau eich traed, ar y dydd pan weithredaf,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

Notes for verses 1–31 entry

Text notes

4“Cofiwch gyfraith fy ngwas Moses, y deddfau a'r ordeiniadau a orchmynnais iddo yn Horeb ar gyfer Israel gyfan.

5“Wele fi'n anfon atoch Elias y proffwyd cyn dod dydd mawr ac ofnadwy'r ARGLWYDD. 6Ac fe dry galonnau'r rhieni at y plant a chalonnau'r plant at y rhieni, rhag imi ddod a tharo'r ddaear â difodiant.”